Er fy mhechod, minau godaf, Ac a âf o'r aflan wlad, A chan wylo mi anturiaf At anwylaf dŷ fy Nhad; Ceisiaf fod yn un o'r gweision, Ag sydd yn'n llon eu gwedd, A dywedaf - Fy Nhad, maddeu, - Er i'm bechu rho dy hedd. Bron na welaf wawr yn tori, A goleuni'n t'w'nu draw, Y cymyau'n dechreu cilio, Ac yn clirio yma 'thraw; Credu wyf fod un yn gwenu, A fu'n gwgu arna'i fawr, Ac fod gobaith caf fy nerbyn, Eto'n blentyn iddo'n awr. Dos yn mlaen, fy enaid ofnus, Bydd hyderus, er yn wàn; Un anfeidrol sy'n dy gymell, Un a all dy godi'r làn; Pwy a ŵyr na cheir dy weled, Er mor ddued 'nawr yw'th liw, Yn y côr yn Nheml Salem, 'N canu'r Anthem nefol wiw.William Jones, Llanfyllin. Llyfr Emynau 1837 [Mesur: 8787D] |
Despite my sin, I shall arise, And I shall go from the unclean land, And weeping I shall venture To the most beloved house of my Father; I shall seek to be one of his servants, That are there in a cheerful condition, And I shall say - My Father, forgive, - Although I have sinned, grant thy peace. I almost see the dawn breaking, And light shining yonder, The clouds beginning to retreat, And clearing here and there: I believe that there is one smiling, Who greatly frowned upon me, And that there is hope I shall be received, Again as his child now. Go onward, my fearful soul, Be confident, although weak; An immortal one is compelling thee, One who can raise thee up; Who knows whether thou shalt be seen, Although so black now is thy colour, In the choir in the Temple of Salem, Singing the worthy heavenly Anthem?tr. 2024 Richard B Gillion |
|