Er mai cwbwl groes i natur
Llwyb(y)r cwb(w)l groes i natur

(Cyfri'r Groes yn Goron)
1,((2,3,4),5),6.
Er mai cwbwl groes i natur
  Yw fy llwybyr yn y byd,
Ei deithio a wnaf, a hynny'n dawel,
  Yng ngwerthfawr wedd
      dy wyneb-pryd;
Wrth godi'r groes
    ei chyfri'n goron,
  Mewn gorthrymderau llawen fyw;
Ffordd yn uniawn, er mor ddyrys,
  I ddinas gyfaneddol yw.

Ffordd a'i henw yn 'Rhyfeddol',
  Hen, a heb heneiddio, yw;
Ffordd heb ddechrau, eto'n newydd,
  Ffordd yn gwneud y meirw'n fyw;
Ffordd i ennill ei thrafaelwyr,
  Ffordd yn Briod, Ffordd yn Ben,
Ffordd gysegrwyd, af ar hyd-ddi
  I orffwys ynddi draw i'r llen.

Ffordd na chenfydd llygad barcut
  Er ei bod fel hanner dydd,
Ffordd ddisathar anweledig
  I bawb ond perchenogion ffydd;
Ffordd i gyfiawnhau'r annuwiol,
  Ffordd i godi'r meirw'n fyw,
Ffordd gyfreithlon i droseddwyr
  I hedd a ffafor gyda Duw.

Ffordd a drefnwyd cyn bod amser
  I'w hamlygu wrth angen-rhaid
Mewn addewid gynt yn Eden
  Pan gyhoeddwyd Had y Wraig;
Dyma seiliau'r
    ail gyfamod,
  Dyma gyngor Tri yn Un,
Dyma'r gwin sy'n abal llonni,
  Llonni calon Duw a dyn.

Addurna'm henaid â dy ddelw,
  Gwna fi'n ddychryn yn dy law,
I uffern, llygredd, a chnawdolrwydd,
  Wrth fy ngweled yma a thraw:
O am gymdeithasu â'r enw!
  Enaint tywalltedig yw,
'N halltu'r byd, gan bêr-arogli
  O hawddgar ddoniau Crist fy Nuw.

Mae fy nghalon am ymadael
  A phob eilun, fach a mawr,
Am fod arni'n argraffedig
  Ddelw gwrthddrych uwch y llawr,
Bythol deilwng i'w addoli,
  Ei garu, a'i barchu,
      yn y byd,
Bywyd myrdd o safn marwolaeth
  Gafwyd yn ei angau drud.

- - - - -
(Dymuniad am sancteiddrwydd)
1,((2,3),4).
Llwybyr cwbwl groes i natur
  Yw fy llafur yn y byd;
Etto gwnaf ei deithio'n dawel,
  Ond im' gael dy wyneb pryd;
Codi'r groes a'i chyfri'n goron,
  Mewn gorthrymder llawen fyw;
Ffordd unionaf, er mor arw,
  I ddinas gyfanneddol yw.

Addurna'm henaid â dy ddelw,
  Gwna fi'n ddychryn yn dy law,
I uffern, llygredd, a chnawdolrwydd,
  Wrth fy ngweled yma a thraw:
O am gymdeithasu â'r enw!
  Enaint tywalltedig yw,
'N halltu'r byd, gan bêr-arogli
 O_hawddgar ddoniau Crist fy Nuw.

O_rhwyga'r tew gymylau duon,
  Guddiant wedd dy
      wyneb gwiw;
Nid oes bleser a'm dyddana,
  Ond yn unig ti fy Nuw;
Môr di drai o bob trugaredd,
 Yw'th iachawdwriaeth fawr ei dawn,
Lanwodd ac a lifodd allan,
  Ar Galfaria un prydnawn.     [NW]

Mae fy nghalon am ymadael
  A phob eilun, fach a mawr,
Am fod arni'n argraffedig
  Ddelw gwrthddrych uwch y llawr,
Bythol deilwng i'w addoli,
  Ei garu, a'i barchu,
      yn y byd,
Bywyd myrdd o safn marwolaeth
  Gafwyd yn ei angau drud.
Llwybyr :: Llwybr
cwbwl :: cwbl
Etto gwnaf ei deithio'n dawel :: Ei deithio wnaf, er hyn(n)y'n dawel
Ond im' gael :: Ond imi gael
gorthrymder :: gorthrymderau
Addurna'm henaid :: Addurna f'enaid
â dy ddelw :: ar dy ddelw
Ond im' gael :: Ond imi gael
I ddinas :: I'r ddinas
Wrth fy ngweled :: Wrth edrych arnaf
'N halltu :: Yn halltu
Rhwyga :: O rhwyga
Guddiant wedd :: Sy'n cuddio gwedd
phob eilun :: phob eilunod
gwrthddrych :: gwrthrych
Bythol deilwng :: Anfeidrol deilwng :: Teilwng, teilwng
Ei garu :: Byth
Gafwyd :: A gafwyd

Ann Griffiths 1776-1805
[NW: Nathaniel Williams 1742-1826]

Tonau:
Diniweidrwydd (alaw Gymreig)
Dismission (J F Wade c.1711-86)
Dolwar (John Roberts [Ieuan Gwyllt] 1822-77)
Dre-Hir (Edward Arthur 1874-1948)
Eifionydd (J Ambrose Lloyd 1815-74)
Eryl (J Morgan Lloyd 1880-1960)
Esther (John Roberts (Ieuan Gwyllt) 1822-77)
  Innocence (Ellis Edwards 1844-1915)
John (E T Davies 1878-1969)
Noddfa (Hugh Jones 1863-1933)
Prysgol (W Owen 1813-98)
Rhewl-Hir (D E Parry-Williams 1900-96)
St Hilary (Gauther)
Towyn (David de Lloyd 1883-1948)

gwelir:
  Addurna'm henaid â dy ddelw
  Dyma babell y cyfamod
  Mae fy nghalon am ymadael
  Mae'r dydd yn dod i'r had brenhinol
  O rhwyga'r tew gymylau duon
  Pan fo'm henaid fwyaf gwresog
  Rhwyga'r tew gymylau duon

(Counting the Cross as a Crown)
 
Although wholly against nature
  Is my path in the world,
Travel it I will, and that quietly,
  In thy valuable presence
      of thy countenance;
While raising the cross
    counting it a crown,
  In oppressions joyful alive;
A straight road, though so entangled,
  Is to an inhabited city.

A Road whose name is 'Wonderful',
  Old, yet without ageing, it is;
A Road without beginning, still new,
  A Road making the dead alive;
A Road to win its travellers,
  An Espoused Road, A Chief Road,
A consecrated Road, I will go all along it
  To finish in it beyond the curtain.

A Road the buzzard's eye shall not discern
  Although it be like mid-day,
A Road untrod unseen
  By all but the possessors of faith;
A Road to justify the ungodly
  A Road to raise the dead alive,
A lawful Road for transgressors
  To peace and favour with God.

A Road which was prepared before time was
  To be revealed against a necessity
In the promise of old in Eden
  When the Seed of the Woman was announced;
Here are the foundations of the
    second covenant,
  Here is the counsel of the Three in One,
Here is the wine which is able to cheer,
  To cheer the heart of God and man.

Adorn my soul with thy image,
  Make me a terror in thy hand,
To hell, corruption and fleshliness,
  As they see me here and yonder:
O to fellowship with thy name!
  Ointment poured forth it is,
Salting the world, while smelling sweetly
  Of the lovable gifts of Christ my God.

My heart would renounce
  Every idol, small and large,
For there to be on it engraved
  The image of an object above the earth,
Forever worthy to be adored,
  Loving him, and revering him,
      in the world,
The life of a myriad from the jaws of death
  Is had in his costly blood.

- - - - -
(A wish for sanctification)
 
A path wholly against nature
  Is my labour in the world;
Still I will travel it quietly,
  Only for me to gain thy countenance;
To raise the cross and count it a crown,
  In oppression joyful alive;
The straightest road, though so rough,
  To an inhabited city is.

Addorn my soul with thy image,
  Make me a terror in thy hand,
To hell, corruption and fleshliness,
  As they see me here and yonder:
Oh to fellowship with thy name!
  Ointment poured forth it is,
Salting the world, while smelling sweetly
  Of the lovable gifts of Christ my God.

O send the thick black clouds,
  They are hiding the countenance
      of thy worthy face;
There is no pleasure which comforts me,
  But only thee my God;
A sea unebbing of every mercy,
  Is thy salvation of great might,
Which flowed and which streamed out,
  On Calvary one afternoon.

My heart would renounce
  Every idol, small and large,
For there to be on it engraved
  The image of an object above the earth,
Forever worthy to be adored,
  Loving him, and revering him,
      in the world,
The life of a myriad from the jaws of death
  Is had in his costly blood.
::
::
Still I will travel it quietly :: Travel it I shall, therefore quietly
oppression :: oppressions
::
::
::
::
To an ... city :: To the ... city
As they see me :: While looking on me
::
Rend :: Oh rend
They hide the countenance :: Which are hiding the countenance
every idol :: all idols
::
Eternally worthy :: Immeasurably worthy :: worthy, worthy
To love him :: Forever
::

tr. 2009,11 Richard B Gillion
 
 
Wholly counter to my nature
tr. Herbert Arthur Hodges 1905-76

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~