Er meithed yr yrfa, a minnau yn flin, Ac er mor dymhestlog a chroes yw yr hin, Mi redaf yn wrol tra pery fy nydd, Gan edrych ar Iesu, Perffeithydd y ffydd. Mae cwmwl o dystion o hyd yn parhau Yn wyn o fy amgylch, rhag imi lescau; A goleu y Nef ar y cwmwl ymdaen, I gymell fy ysbryd lluddedig ymlaen. Mi welaf Waredwr ymlaen ar y Bryn, Mae'n galw am danaf tu arall i'r glyn; I ymyl yr afon yn llawen y daw  choron cyfiawnder i mi yn Ei law. Bu yntau yn rhedeg mewn trallod a chŵyn, A thynnodd y drain ar y ffordd er fy mwyn; Cyrhaeddodd y goron, er colli Ei waed, A sathrodd elynion yn fyrdd dan Ei draed. Nid ofnaf elynion, er amled eu rhi', Mae gallu y Nef mewn addewid i mi; Am goron y bywyd, am wisg ddi-ystaen, Gan edrych ar Iesu, mi redaf ymlaen.Evan Rees (Dyfed) 1850-1923 [Mesur: 11.11.11.11] |
Despite how vast the course, and I myself weary, And although so tempestuous and contrary is the climate, I shall run bravely while my nest endures, Looking upon Jesus, The Perfecter of the faith. The cloud of witnesses is still enduring In white around me, lest I grow feeble; And the light of heaven on the cloud spreads, To urge my exhausted spirit onward. I see my Deliverer ahead on the hill, He is calling for me on the other side of the vale; To the side of the river cheerfully he shall come With the crown of righteousness for me in his hand. He himself ran in trouble and complaint, And pulled the thorns on the road for my sake; He reached the crown, despite shedding his blood, And trampled a myriad of enemies under his feet. I shall not fear enemies, despite how manifold their number, The power of heaven is in promise for me; For the crown of life, for stainless clothing, By looking upon Jesus, I shall nun onwards.tr. 2023 Richard B Gillion |
|