Efe yw'm Brenin mawr dinam, Fy Mhrophwyd a'm Hoffeiriad; Fy nghyfaill byth, a'm ffyddlon frawd; Fy enaid tlawd ddaw atad. Dysg fi i deithio'r llwybrau da, Sy'n myn'd tua thragwyddoldeb, Tros fryniau mawr ac anial dir, Ond dyna wir ddoethineb. Fy niwl a thân bob nos a dydd, Fy arwain bydd ei hunan; Tryw'r mawr ddiffaethwch yn ei gôl, Mewn i'r ddymunol Ganaan. Fe'm dysg, fe'm cyfarwydda trwy Bob rhwystr mwy a gyfyd, Rhag cyfeiliorni ar un llaw, 'Chai fyn'd o law fy Mhrophwyd. Fe'm gwna mor ddoeth nes drysu'r fall Sy mor gyfrwsgall beunydd; Dadrys ei rhywdau o bob rhyw, Can's Iesu yw f'Arweinydd.William Williams 1717-91 Y Per Ganiedydd 1847 [Mesur: MS 8787] gwelir: Fe'm gwnaeth yn ddoeth wel'd fy hun yn ddall |
He is the great, innocent King, My Prophet and my Priest; My friend forever, and my faithful brother; My poor soul shall come to thee. Teach me to travel the good paths, Which are going towards eternity, Over great hills and a desert land, But there is true wisdom. My cloud and fire every night and day, Leading me shall be themselves; Through the great wilderness in his bosom, Into the desirable Canaan. He will teach me, he will train me through Every obstacle which shall henceforth arise, Against wandering on either hand, And going from the hand of my Prophet. He will make me so wise until outwitting the devil Who is so wily daily; To undo his snares of every kind, Since Jesus is my Guide.tr. 2017 Richard B Gillion |
|