Eistedd wna y mawr Jehofa Ar orseddfainc uchaf nef; Ac addefa'r greadigaeth Ei lywodraeth eang Ef. Dowch, angylion cedyrn, nerthol, Dowch, yng ngrym y dwyfol dân, I glodfori y Goruchaf - Dowch yn gyntaf at y gân. Deued nefoedd gyda'r ddaear, Deued pawb â llafar lef, Ac mewn nefol hwyl dyrchafant, Foliant byth i Frenin nef.John Williams (Ab Ithel) 1811-62 Tôn [8787]: Gwilym (Tom Price 1857-1925) |
Sit did the great Jehovah On the highest throne of heaven; And the creation profess His widespread government. Come, ye strong, powerful angels, Come, in the force of the divine fire, To extol the Most Hight - Come ye first to the song. Let heaven come with the earth, Let all come with a vocal cry, And in heavenly mirth they shall exalt The praise forever of the King of heaven.tr. 2020 Richard B Gillion |
|