Eisteddaf wrth y Groes A godwyd ar y Bryn, Lle curodd llawer oes Wrth ddrws y Nef cyn hyn; Mae'r hawl i minnau, gwydryn ffol, I wyn fwynhad y Nef yn ôl. Mi gara'r Iesu mwy, Dilynaf ôl ei draed; Mae bywyd yn Ei glwy, A chymod yn Ei waed; Mi wn mai'r Cyfaill byth a lŷn Ymhob ystorm yw Ceidwad dyn. Dioddefodd farwol gur, Yn sanctaidd ac yn fud; Ond sŵn yr hoelion dur Ddihunodd greigiau'r byd; A chododd y ddaeargryn gre' I ddweyd mai'r Iesu oedd Efe. Oferedd fyd dihedd, Yn hwyr y nawfed awr, Oedd agor newydd fedd I'r Atgyfodiad mawr; Goleuni'r byd i ddynol ryw, A Brenin trawyddoldeb yw. Pan aeth yr Haul i lawr Cymylwyd goleu ffydd; Ond torrodd newydd wawr Ar fore'r trydydd dydd, Gogoniant byth i enw Duw, Mae'r bedd yn wag, a'r Iesu'n fyw.Evan Rees (Dyfed) 1850-1923 [Mesur: 666688] |
I sit by the cross That was raised on the hill, Where beat many ages On the door of heaven before this; The right for me, a foolish wanderer, Blessedly to enjoy heaven is back. I love Jesus more, I shall follow the print of his feet; There is life in his wound, And reconciliation in his blood; I know that the Friend who shall ever stick In every storm in the Saviour of man. He suffered a mortal stroke, Sacredly and mutely; But the sound of the steel nails Awoke the rocks of the world; And the strong earthquake arose To say that Jesus was he. The vanity of a world without peace, Late at the ninth hour, Was to open a new grave To the great Resurrection; The Light of the world to human kind, And the King of eternity is he. When the Sun went down The light of faith was clouded; But a new dawn broke On the morn of the third day, Glory forever to the name of God, The grave is empty, and Jesus is alive.tr. 2021 Richard B Gillion |
|