Erglyw ein taeraf weddi Iôr

(Dymuniad)
Erglyw ein taeraf weddi Iôr
  Tydi wyt fôr o gysur,
A disgwyl wrth dy orsedd Di
  Mae isel deulu dolur.
Pan fyddo'n baich yn rhwydd drymhâu,
  A ninnau'n wir yn egwan,
O! estyn fraich trugaredd gref,
  A chynnal ef dy hunan.

Pan fyddo oriau dyn yn faith,
  A'i waith yn ddigalondid,
O! Arglwydd da perffeithia Di
  Dy allu yn ein gwendid.
Pan fyddo ein cyfeillion cun
  O un i un yn cefnu,
O! tywallt gydymdeimlad pur
  I gur yr oriau hynny.
John Daniel Davies 1874-1948

Tôn [MSD 8787D]: Glanwydden
    (John H Roberts 1848-1924)

(Petition)
Hear our most ardent prayer, Lord,
  Thou art a sea of comfort,
And waiting at thy throne
  Is the lowly family of sadness.
When our burden be readily getting heavier,
  And we truly weak,
O stretch out the strong arm of mercy,
  And support it thyself.

When the hours of a man be long,
  And his work be disheartening,
O good Lord, perfect thou
  Thy power in his weakness.
When our dear friends be
  One by one turning their backs,
O pour out pure sympathy
  On the ache of those hours.
tr. 2020 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~