Esgynodd Crist ein Ceidwad mawr

1,2,3,5;  1,2,4;  1,3,4.
(Esgyniad Crist)
Esgynodd Crist, ein Ceidwad mawr,
  Goruwch y nef mae'n Ben;
Heddychodd Ef y nef a'r llawr,
  Trwy farw ar y pren.

Drwy ffydd yn llon ni wnawn goffhâd
  Am ei esgyniad ef;
Drwy'r dysglaer byrth,
    aeth yr Ior mâd
  I mewn i lys y nef.

Mae'n eistedd ar ddeheulaw'r Tad,
  Ar orsedd fawr y nef;
Ac y mae'r cyfan sydd mewn bod
  Dan ei awdurdod Ef.

Mae yno'n eiriol drosom ni,
  Ar sail ei aberth drud;
Boed iddo glod, a mawl, a bri,
  Gan holl dylwythau'r byd.

Esgynodd Crist i nef y nef,
  I eiriol dros y gwan:
Fy enaid inau gyfyd ef,
  I'w fynwes yn y man.
1,2,4: Cas. o dros Ddwy Fil o Hymnau (S Roberts) 1841
 3, 5 : Caniadau Y Cysegr 1855

Tonau [MC 8686]:
Gloucester (Ravenscroft's Psalter 1621)
St Magnus (Jeremiah Clarke c.1673-1707)

(The Ascension of Christ)
Crist, our great Saviour, ascended,
  Over heaven he is Chief;
He reconciled heaven and earth
  Through dying on the tree.

Through faith cheerfully let us commemorate
  His ascension;
Through the shining portals,
    went our good Lord
  Into the court of heaven.

He is sitting at the Father's right hand,
  On the great throne of heaven;
And all that is in being is
  Under his authority.

He is there interceding for us,
  On the basis of his costly sacrifice;
To him be acclaim, and praise, and renown,
  From all the tribes of the world.

Crist ascended to the heaven of heaven,
  To intercede for the weak:
My own soul too shall rise,
 To his bosom in a while.
tr. 2020 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~