Efe yw ffynnon fawr pob dawn

(Dedwyddwch yn Nghrist)
Efe yw ffynnon fawr pob dawn,
  Gwraidd holl ogoniant dyn;
A rhyw drysorau fel y môr
  A guddiwyd ynddo'i hun.

'Rwyf yn hiraethu am gael prawf
  O'r maith bleserau sy
Yn cael eu hyfed, heb ddim trai,
  Gan yr angylion fry.

Mae 'nymuniadau'n hedeg fry,
  Uwch creadigol fyd,
Ac yn diystyru'r ddaear hon,
  A'i da o'r bron i gyd.

Fe'm ganwyd i lawenydd uwch
  Nag sy 'mhleserau'r llawr,
I gariad dwyfol, gwleddoedd pur
  Angylion nefoedd fawr.

O! pa'm nas caf fi ddechreu'n awr
  Fy nefoedd yn y byd,
A threulio 'mywyd mewn mwynhâd
  O'th gariad gwerthfawr drud?
William Williams 1717-91

Tonau [MC 8686]:
Abbey (Sallwyr Ysgotaidd 1615)
Martyrdom (Hugh Wilson 1766-1824)
St George (Nikolaus Hermann 1500-61)

gwelir:
  Fe'm ganwyd i lawenydd uwch
  Mae Iesu'n Berson union oll
  'Rwy'n chwennych gweld ei degwch Ef

(Happiness in Christ)
He is the great fount of every gift,
  The origin of all the glory of man;
And some treasure like the sea
  Is concealed in himself.

I am longing to get to taste
  Of the vast pleasures there are
To be drunk, without any ebbing,
  By the angels above.

My wishes fly up,
  Above the world of creation,
And disregard this earth,
  And its goods absolutely entirely.

I was born for joys higher
  Than are my pleasures below,
For divine love, the pure feasts
  Of the angels of great heaven.

Oh why can I not begin now
  My heaven in the world,
A spend my life in enjoyment
  Of thy dear, valuable love.
tr. 2014 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~