Eheda eheda Efengyl dragwyddol

1,(2),3.
(Yr achos Cenadol)
Eheda, eheda,
    Efengyl dragwyddol,
Ar adenydd y wawr
    yn gyflym a nerthol;
  Cyhoedda trwy'r hollfyd
      fod cymod â'r nefoedd,
  Darostwng yn rasol
      gyndynrwydd y bobloedd.

O! d'wed am yr Iawn
    sy'n clirio'r euoca',
A'r ffynnon wna'r Ethiop
    yn wyn fel yr eira.

Dirgelion y nefoedd,
    datguddia yn helaeth,
Fod Crëwr y byd
    yn gwisgo dynoliaeth,
  Er arbed yr euog,
      i'r Iesu Jehofa
Offrymu ei hun
      ar fynydd Calfaria:

O! d'wed, &c.

Gwna'r gwylltiaid yn araf,
    a'r creulon yn dirion,
A chymmod y nef
    gwna heddwch rhwng dynion;
  Cyhoedda faddeuant
      i'r euog helbulus,
  A thywys y crwydriaid
      yn ol i baradwys:

O! d'wed, &c.
David Charles 1762-1834

Tonau [11.11.12.11.12.12]:
  Bevan (alaw Forafiaidd)
Hyfrydlais (Rees Williams 1846- )
Rhad Ras (alaw Gymreig)

(The Missionary cause)
Fly, fly,
    eternal Gospel,
On the wings of the dawn
    fast and strong;
  Publish throughout the universe
      that there is reconcilation with heaven,
  Subdue graciously
      the stubbornness of the peoples.

O tell about the Satisfaction
    which is clearing the most guily,
And the fount which make the Ethiopian
    white like the snow.

The mysteries of heaven,
    disclose widely,
That the Creator of the world is
    clothed in humanity,
  In order to save the guilty,
      Jesus Jehovah
  Offers himself
      on the mount of Calvary:

O tell &c.

Make the wild slow,
    and the cruel tender,
With the reconciliation of heaven
    make peace between men;
  Publish forgiveness
      for the guilty troubled,
  And lead the wanderers
      back to paradise:

O tell &c.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~