Ei waith fel Archoffeiriad O fewn y nefoedd wen, Y man y rho'wyd e' i eistedd Ar bob peth oll yn ben, Yw eiriol dros ei bobl Nes cael cyflawni gyd, Yr addewidion dyngwyd Cyn iddo seilio'r byd. A thyma'r Angel cadarn Sy'n sefyll uwch y nen, A'r gwregys am ei lwynau, A'r meitr am ei ben; Yn dal y thuser sanctaidd Sydd o aroglau'n llawn, A'r tarth yn codi' fyny O fore hyd brydnawn. Gweddiau'r saint yn esgyn I fynu gyda'r mŵg, Aroglau'r myrr yn tynu I ffwrdd y safwr drwg; A'r dyledswyddau eraill Sy'n llawn eu gyd o fai, Trwy scil yr Archoffeiriad Yn cael eu lwr lanhau. Mi ro' fy nwylaw bellach Ar ben yr Aberth mawr, Mi rifaf yno'n gryno Fy holl bechodau i lawr: A'm dagrau hallt mi olchaf Draed fy Iachawdwr Crist, Y traed mor fuan redodd I achub f'enaid trist.
William Williams 1717-91 [Mesur: 7676D]
gwelir: |
His work as High Priest Within the bright heavens, The place he was given to sit Over everything as head of them all, Is interceding for his people Until getting all the fulfilment, Of the promise sworn Before he founded the world. And behold the strong Angel Who is standing above the sky, With the belt about his loins, And the mitre about his head; Holding the hold censer Which is full of aromas, And the smoke rising up From morning until evening. The prayers of the saints ascending Up with the smoke, The aromas of the myrrh taking Away the evil savour; And the other debts Which are all full of fault, Through the skill of the High Priest Getting completely cleansed. I will put my hands henceforth On the head of the great Sacrifice, I will count there, trembling, All my sins down: With my salt tears I will wash The feet of my Saviour Christ, The feet that so soon ran To save my sad soul. tr. 2017 Richard B Gillion |
|