Ein deddfwr, Duw, nid dim ond da a bair; Holl lu y nef yn llon a wnant ei air: Ardderchog lu! ni thorant byth mo'i arch; Fel hyn trwy'r byd ei 'wyllys fo mewn parch. Arfaethau Duw ynt uniawn, doeth, a da; Ei gynghor saif, a'i holl ewyllys wna: O oes i oes, meddyliau calon Iôr Sydd lawer trech na chedyrn dònau'r môr. Fy enaid, câr arfaethau gras di-drai; Ewyllys Nêr roes Iesu dros dy fai: O'i fwriad ef mae'r clwyf lle mae dy nyth, A'th fwriad di o aros yno byth. Os trefnodd siomi dy amcanion hoff, Ac i ti fyn'd i'r bywyd mwy yn gloff, Na chwyna ddim; yr un Penarglwydd yw A drefnodd i ti gwrdd âg ef, a byw. "Dy farn ni ŵyraf," medd fy Nefol Dad; "Gweinyddaf i ti fwy na'r byd yn rhad: Dan bob rhyw loes, gwrandawaf ar dy gri, Cyfranog fyddi o'm sancteiddrwydd i. "Oni wna Barnydd yr holl ddaear farn?" Y pryfyn dyn ni wêl o'm gwaith ond darn: Duw doeth nid all, Duw da ni wna, un cam; Fe ddengys ei holl lwybrau yn ddinam. Ymgrymaf mwy, dan holl flinderau'r llawr, I'r hwn a eistedd byth yn Frenin mawr: Ni flinodd neb o'i fodd er dechreu'r byd; Mae'n dwyn ei blant o'u poeni'r Ganaan glyd. Ewyllys Iôn a caffo mwy fy nghlod; Pan ddelo drwg, pan fyddo da heb ddod, Fy nghân gaiff fod, Yr Arglwydd, ef sydd Dduw; Rhued y storm, fy Nhad sydd wrth y llyw.David Charles 1803-80
Tonau [10.10.10.10]: |
Our judge, God, shall be only ever good; All the host of heaven cheerfully do his word: An excellent host! they never break his command; Thus throughout the world be his will in revenrence. The schemes of God are upright, wise, and good; His counsel stands, and all his will shall do: From age to age, the thoughts of the Lord's heart Are far mightier than the strong waves of the sea. My soul, love the unebbing purposes of grace; The will of the Lord that Jesus fulfilled for thy fault: Of his intention is the wound where thy nest is, And thy intention of staying there forever. If he arranged to disappoint thy fond ambitions, And for thee to go into life more lame, Do not complain at all; the same supreme Lord he is Who arranged for thee to meet with him and live. "Thy judgment I will not pervert," says my Heavenly Father; "I will adminster for thee more than the world freely: Under every kind of anguish, I will listen to thy cry, A partaker thou shalt be of my holiness. "Shall not the Judge of the whole earth judge?" The worm man shall only see a piece of my work: A wise God cannot, A good God will not, one step; He will show all his paths faultlessly. I will bow evermore, under all the griefs of the earth, To him who sits forever as a great King: He never grieved anyone voluntarily since the beginning of the world; He is leading his children from their pain to the secure Canaan. The Master's will shall get evermore my praise; When evil comes, when good does not come, My song shall get to be, The Lord, he is God; Let the storm roar, my Father is at the helm.tr. 2017 Richard B Gillion |
|