Er garwed gwyntoedd er dued y nen

Er garwed y gwyntoedd,
    er dued y nen,
Er amled y tonnau
    orchuddiant y mhen,
  Cynhyrfed y moroedd,
      terfysged y byd,
  Yr Iesu yw Arglwydd
      y cyfan i gyd.

    Mae popeth yn dda,
        mae popeth yn dda,
    A'r Iesu'n fy ngharu,
        mae popeth yn dda.
    Mae popeth yn dda,
        mae popeth yn dda,
    A'r Iesu'n fy ngharu,
        mae popeth yn dda.

Os dirgel Ragluniaeth
    ddwg angau i'm cwrdd,
A chymryd fy ffrindiau
    anwylaf i ffwrdd,
  A'm gadael fy hunan
      yn unig a thlawd,
  Bydd Iesu yn aros
      yn Geidwad a Brawd.

Pan ddof yn y diwedd
    at derfyn y daith,
A glyn cysgod angau
    yn dywyll a maith,
  Yn nyfroedd yr afon
      fy nghynnal a wna,
  A dwedaf fan honno
      fod popeth yn dda.
Thomas Levi 1825-1916

Tôn [11.11.11.11+10.11.10.11]:
    Mae Popeth yn Dda (Joseph Parry 1841-1903)

Despite the roughness of the winds,
    despite the blackness of the sky,
Despite the frequency of the waves
    going over my head,
  How agitated the seas,
      how tumultuous the world,
  Jesus is the Lord
      of the whole altogether.

    Everything is good,
        everything is good,
    And Jesus loves me,
        everything is good.
    Everything is good,
        everything is good,
    And Jesus loves me,
        everything is good.

If secret Providence
    lead death to meet me,
And take my dearest
    friends away,
  And leave me myself
      alone and poor,
  Jesus will remain
      a Saviour and Brother.

When I come in the end
    to my destination,
With the valley of the shadow of death
    dark and vast,
  In the waters of the river
      support me he will do,
  And I will say there and then
      that everything is good.
tr. 2014 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh (corrections welcome). A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~