Er imi grwydro'n ffôl, I estron wlad; Anturiaf yn fy ôl, Fy nhirion Dad! Trugarog ydwyt Ti, O! derbyn, derbyn fi; O! derbyn fi. Rwy'n dyfod fel yr wyf, Yn wael fy ngwedd; Nid oes a wella'm clwyf Ond balm dy hedd; Fy mywyd ydwyt Ti! O! derbyn, derbyn fi; O! derbyn fi. Mi glywais am yr Iawn, Roed ar y groes, - Anfeidrol daliad llawn Dros feiau f'oes. Yn haeddiant Calfari, O! derbyn, derbyn fi; O! derbyn fi.Robert M Jones (Meigant) 1851-99
Tonau [6464.664]: |
Although I have wandered foolishly, To a foreign land; I will venture back, My tender Father! Merciful art Thou, O receive, receive me! O receive me! I am coming as I am, In a poor condition; Nothing will heal my wound But the balm of thy peace; My life art Thou! O receive, receive me! O receive me! I heard about the Ransom, Given on the cross, - An immeasurable, full payment For the faults of my age. In the merit of Calvary, O receive, receive me! O receive me!tr. 2017 Richard B Gillion |
|