Er trengu ar y groes

(Ffrwyth Angeu Crist)
Er trengu ar y groes
  Ein Meichiau mawr o'r nef,
Fy Mrenin mwyn, fy Mhrynwr mawr,
  A'm Duw yn awr yw Ef;
I'r lan y trydydd dydd
  Yn gadarn daeth o'r bedd,
A gwenu mae cyfiawnder pur
  Yn awr mewn cyflawn hedd.

Ar hyfryd Seion fryn,
  Bydd torf âg uchel lef,
Dros oesoedd tragwyddoldeb maith
  Yn canu "Iddo Ef!"
Yn ddysglaer fel y wawr,
  Oll wedi eu cànu'n wyn,
Bydd priodasferch, gwraig yr Oen,
  Yn ddedwydd iawn pryd hyn.
Anhysbys

Tôn [MBD 6686D]: Amana (J H Roberts 1848-1924)

(The Fruit of the Death of Christ)
For expiring on the cross
  Our great Surety from heaven,
My dear King, my great Redeemer,
  And my God now is He;
Up on the third day
  Firmly he came from the grave,
And smiling is pure righteousness
  Now in complete peace.

On pleasant Zion hill,
  Is a crowd with a loud cry,
Over vast eternal ages
  Singing "Unto Him!"
Shining like the dawn,
  All having been bleached white,
The bride, the wife of the Lamb, will be
  Very happy then.
tr. 2013 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh (corrections welcome). A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Interests ~ Home ~