F'enaid cred, anghofia'th adfyd, Edrych i'r ardaloedd hyfryd: Ehêd o'r byd sy'n fôr o drallod, Y mae gwleddoedd i ti'n barod. Dacw'r gwledydd hyfryd helaeth, A roddwyd i mi'n etifeddiaeth; Lle mae cariad pur yn lifo, Heb na thrai na therfyn iddo. Dyma'r fan câf fi deyrnasu, Gyd â'm hanwyl Brynwr Iesu; Gwledda o'i gariad, gwel'd ei wyneb, I ddiderfyn drag'wyddoldeb. Mae rhyw dorf ddirîf o seintiau, Yn awr yn canu eu telynau, Ac yn seinio Halaluia, Dechreu anthem pen Calfaria. Deng mîl o delynau'n canlyn, Cân nefolaidd, bur diderfyn; Y cerubiaid gydâ'r seintiau, Yr un sylwedd eu caniadau. Wrth gofio glàn yr hen Iorddonen, Fy enaid athrist gân yn llawen; Ar fyr âf finnau i'r wlad na dderfydd, Llawn orfoledd yn dragywydd. - - - - - F'enaid cred, anghofia'th ofid, Edrych i'r ardaloedd hyfryd; Hed o'r byd sy 'mron â'th orfod, Y mae gwleddoedd iti'n barod. Dacw'r gwledydd hyfryd helaeth, 'Roddwyd i mi'n etifeddiaeth, Lle mae cariad pur yn lifo Tros ardaloedd gras heb flino. Dyma'r wlad câf fi deyrnasu Gyda'm hannwyl Brynwr, Iesu; Gwledda o'i gariad, gweld ei wyneb Draw i derfyn tragwyddoldeb. O! na fedrwn 'n awr i ddringad Hanner gynted â'm dymuniad, Mi awn gyda'r awel hyfryd Maes o'r byd i dir y bywyd. 'R wyf fi'n clywed myrdd o seintiau 'N awr yn c'weirio eu telynau, Ac yn taro ar Hosanna, Dechrau anthem pen Calfaria. Dengmil o delynau'n canlyn, Cân heb ddechrau, cân heb derfyn, Y cerubiaid gyda'r seintiau, Yr un sylwedd eu caniadau. Minnau gaf fod yn eu cwmpni Cyn pen gronyn yno'n canu; Edrych gyda hwy yn wyneb Disglair Brenin tragwyddoldeb.William Williams 1717-91 Grawn-Sypiau Canaan 1805
Tonhau [8888]: gwelir: Rhan I - 'Nawr 'r wyn'n gwel'd yr ardal hyfryd Rhan III - 'R wyf yn clywed myrdd o seintiau Hollalluog sy'n fy nghodi |
My soul, believe, forget thy adversity Look to the delightful regions Fly from the world which is a sea of trouble, There are feasts ready for thee. Yonder are the delightful, plentiful lands, Given to me as an inheritance; Where pure love is flowing, Without ebbing or any end to it. Here is the place I shall get to reign, With my beloved Redeemer Jesus; To feast from his love, to see his face, For an unending eternity. There is some innumerable throng of saints, Now playing their harps, And sounding Hallelujah, To begin the anthem of the summit of Calvary. Ten thousand harps following, A pure, unending, heavenly song; The cherubim with the saints, Of the same meaning their songs. While remembering the bank of the old Jordan, My sad soul, sing joyfully; Shortly I too shall go to the land that shall not end, Full of jubilation eternally. - - - - - My soul, believe, forget thy fearing, Look to the delightful regions; Fly from the world that is almost triumphing over thee, There are lands ready for thee. Yonder are the delightful, extensive lands, That were given to me as an inheritance, Where pure love is flowing Over regions of grace without tiring. Here is the land where I may reign With my beloved Redeemer, Jesus; Feast on his love, see his face Yonder to the end of eternity. O that I could now climb Half as fast as my desire, I would go with the delightful breeze Out of the world to the land of life. I am hearing a myriad of saints Now tuning their harps, And striking Hosanna, To begin the anthem of the summit of Calvary. Ten thousand harps following, A song without beginning, a song without end, The cherubim with the saints, The same substance of their songs. I too shall get to be in their company Before a little while singing there; Looking with them at the radiant Face of the King of eternity.tr. 2017,20 Richard B Gillion |
|