F'enaid egwan paid ag ofni, Bod rhyw ddrygau mawr gerllaw, Ofni gwyntoedd oer y gogledd, Ofni gwynt y dwyrain draw; Ofni'r cwbl, Ac heb achos ofni'n bod. Newydd mawr, a newydd llawen, Newydd gwir a newydd rhad, Sy'n marchogaeth ar y cwmwl, Goleu draw o dŷ fy nhad; Fe faddeuwyd, Beiau rif y ser i mi. Os daw gw'radwydd, os daw gofid, Trwy ragluniaeth bur fy Nuw; Hyny fyth ni ladd fy enaid, Cadw nghalon wna fe'n friw, Bydd ei fflangell, Yn y diwedd fel y gwin. Os ar wely rhaid fy rhoddi, Ryw bryd yn y dyddiau ddaw, I gystuddiau nes bo'm brodyr, Goreu oll yn cilio draw; Mi ddof allan, Fel yr aur y seithfed tro. Os rhaid i mi gael blynyddau, O'r cystuddiau gwaetha eu rhyw, Am fynydau bach o bleser, Ge's i dori deddf fy Nuw; Fe ddaw diwedd, Ar bob gofid yn y nef. Fe ga'w'd croesau lle ni phechwyd; P'am gwrth'nebaf finnau'r groes? Cafodd Crëwr nef ei Hunan Ar Galfaria angeu loes: Yr un llwybrau Raid im' gerdded ag Efe.William Williams 1717-91
Tonau [878747]: gwelir: Mi foddlonaf doed a ddelo |
My weak soul, do not fear, That there are some evil at hand, Fearing the cold winds of the north, Fearing the wind of yonder east; Fearing the whole, And without there being any cause to fear. Great news, and joyful news, True news, and free news, Is riding on the cloud, Light yonder from my father's house; Forgiven were, Sins as numerous as the stars for me. If reproach should come, if grief should come, Through the pure providence of my God; That will never kill my soul, Keep my heart he will bruised, His scourge shall be, In the end like the wine. If on a bed I my lie, Some time in the days to come, For afflictions until my brothers be, The best of all, retreating yonder; I will come out, Like the gold the seventh time. If I must get years, Of the afflictions of the worst kind, For a small minute of pleasure, Which I got for breaking my God's law; An end shall come, On every grief in heaven. Crosses were found where no-one sinned; Why shall I then reject the cross? The Creator of heaven himself had On Calvary the throes of death: The same paths I must walk as did he.tr. 2016,23 Richard B Gillion |
|