Esgyn f'enaid i ben Pisgah
F'enaid esgyn i ben Pisgah

(Golwg ar y Ganaan nefol)
Esgyn, f'enaid, i ben Pisgah,
  Gwel dy ffordd drwy gywir ffydd,
Cymer ddrych o'r
      fath eglura',
  Dewis deg oleuni'r dydd;
    Gwel oddiyno
  Hardd gyffiniau'r Ganaan gu!

Per arogla' i meusydd gwyrddion,
  Gan anfarwol flodau hardd,
Ffrwythau iachus a melusion,
  Gesglir yno'n ddiwahardd;
    Pren y bywyd,
  Dros y fro a leda'i frig.

O! mor ddedwydd ei thrigolion,
  Sy'n cydrodio gyda'r Oen,
Oll yn gwisgo gynau gwynion,
  Yn ddibechod, yn ddiboen!
    Gorfoleddu,
  Yn dragywydd yw eu gwaith.

           - - - - -

F'enaid esgyn i ben Pisga,
  Yn dy ffordd ar aden ffydd,
Cymer ddrŷch o'r
      fath eglura,
  Dewis dêg oleuni'r dydd:
    Gwel oddi yno
  Hardd gyffiniau'r Ganaan gu.

O mor wynion yw ei brynniau,
  Gan y goleu sy' yno i'w gael!
Hyfryd odiaeth yw ei ffrydiau
  Byth yn rhoi eu bendith hael!
    Llifa'r Ganaan,
  Hoff ei gwedd, gan laeth a gwîn.

Pêr arogla'i meusydd gleision,
  Gan anfarwol flodau hardd;
Ffrwythau iachus a melusion,
  Gesglir yno'n ddiwahardd;
    Pren y bywyd,
  Dros y fro a leda ei frîg.

Ei aneirif gu thrigolion
  A gyd-rodiant gyd a'r Oen,
Oll yn gwisgo'u gynau gwynnion,
  Yn ddi-bechod, yn ddi-boen:
    Gorfoleddu
  Yn drag'wyddol yw eu gwaith.

O am groesi'r ddu Iorddonen,
  I feddianu'r hyfryd wlad!
O fy Mhrynwr anwyl, arwain
  Finneu i dŷ fy nefol Dâd:
    Dwg fi adre;
  O'r anialwch erchyll hwn.
Benjamin Francis 1734-99

Tôn [878747]: Pisgah (W H Havergal 1793-1870)

(The view over the heavenly Canaan)
Ascend, my soul, to the summit of Pisgah,
  See thy way through correct faith,
Take a looking-glass of the
    sort that makes clear,
  Choose the fair light of day;
    See from there
  The beautiful borders of the dear Canaan!

The sweet perfumes of its green fields,
  From beautiful, immortal flowers,
Healthy and sweet fruits,
  Are to be gathered there unhindered;
    The tree of life,
  Across the vale shall spread its canopy.

O how happy its inhabitants!
  Who are walking together with the Lamb,
All wearing white gowns,
  Sinlessly, painlessly!
    To exult,
  Eternally is their work.

                 - - - - -

Ascend, my soul, to the summit of Pisgah,
  In thy way on the wings of faith,
Take a looking-glass of the
    sort the makes clear,
  Choose the fair light of day:
    See from there
  The beautiful borders of the dear Canaan.

O how bright are her hills,
  From the light that is there to be found!
Exquisitely delightful are her streams
  Forever giving their generous blessing!
    Canaan flows,
  Lovely her condition, with milk and wine.

Sweetly smell her green fields,
  From beautiful immortal flowers;
Health-giving and sweet fruits,
  Are gathered there without exception;
    The tree of life,
  Across the vale spreads its canopy.

Her innumerable residents
  Walk together with the Lamb,
All wearing their white robes,
  Sin-free, pain-free!
    Rejoicing
  Eternally is their work.

O to cross the black Jordan,
  To possess the delightful land!
O my beloved Redeemer, lead
  Me also to my heavenly Father's house:
    Lead me home;
  From this terrible desert.

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~