Fe dalodd Iesu'n dyled fawr Wrth oddef angeu loes, 'R ysgrifen oedd i'n herbyn ni A hoeliodd wrth y Groes. Ac yna fe orchfygodd rym Galluoedd uffern ddu! Agorodd drws i minau, 'r gwael, I ganu gyda'r llu. [Ac yna fe orchfygodd rym Galluoedd uffern ddu, A'i goncwest droes yn destun cān I ryw aneirif lu.] Mae sŵn morthwylion Iesu mawr Ar furiau Salem bur, Yn trwsio'n rhad eneidiau lu, Mewn diffaith anial dir. O'r graig fe naddwyd allan fyrdd O feini geirwon iawn, Fe'u dygir i'r adeilad fry Cyd bydd y gwaith yn llawn. 'R ysgrifen :: Y 'sgrifen bydd :: bod
Christmas Evans 1766-1838
Tonau [MC 8686]: |
Jesus paid our great debt By suffering the throes of death, The writing that was against us He nailed to the Cross. And there he overcame the force Of the powers of black hell! He opened a door for me, the wretch, To sing with the throng. [And there he overcame the force Of the powers of black hell, And his conquest turned into the theme of a song For some innumerable throng.] There is the sound of the hammers of great Jesus On the walls of pure Salem, Mending freely a host of souls, In a desolate desert land. From the rock are hewn out roads From very rough stones, They will be led to the building above Before the work is complete. :: :: tr. 2011 Richard B Gillion |
|