Fe ddyrchefir mynydd Sïon, Bydd goruwch holl fryniau'r byd; A'r cenedloedd o bob gwledydd, A ddylifant ato i gyd: Glŷn wrth odrau gwr o Iuddew, Ddeg o ddynion o bob iaith, Deuant oll i gyd addoli, O bob cwr i'r ddaear faith. Bydd breninoedd yn dadmaethod, Llon i'r eglwys cyn bo hir; Yr un wedd, daw breninesau, Yn fammaethod iddi'n wir: Pendefigion uchaf daear, Ymostyngant i Dduw Ner; Eu holl olud a gyssegrant At wasanaeth Sïon bêr. Fe ymâd cenfigen Ephraim: Ni chaiff Juda elyn mwy: Ni bydd neb i ddrygu Sïon, Nac i roddi iddi glwy: Fe fydd undeb a brawdgarwch Yn mhob man yn llenwi'r byd; Hedd a chariad a deyrnasa, Dros y ddaear faith i gyd.Peter Jones (Pedr Fardd) 1775-1845 [Mesur: 8787D] |
Mount Zion is to be exalted, It will be above all world's hills; And the nations of all lands, Shall stream to it all together: Clinging to the corner hem of a Jew, Ten men of every language, Shall all come to worship, From every corner of the vast earth. Kings will be foster-fathers, Cheerful to the church before long; In the same way, queens will come, As foster-mothers to her truly: The highest nobles of the earth, Shall humble themselves to God the Lord; All their wealth they shall consecrate To the service of sweet Zion. Jealousy shall lead Ephraim: Judah shall have no more enemy: Neither shall anyone harm Zion, Nor give her a wound: There will be unity and brotherhood Everywhere filling the world; Peace and love shall reign, Over all the vast earth.tr. 2015 Richard B Gillion |
|