Fe roddes Duw i'r wraig a'r dyn

1,2,3,4,5,6,7;  1,2,3,4,6.
(Dyn yn tori deddf Duw)
Fe roddes Duw i'r wraig a'r dyn,
A luniodd ar ei ddelw ei hun,
  Fel llydan wraidd holl ddynolryw
  Orchymmyn hardd,
      a chyfraith wiw.

Ond syrthio'n wir a wnaeth y wraig,
Trwy goelio'r ddwys
    uffernol ddraig;
  Troseddodd Adda trwyddi hi,
  A llygru wnaeth ein natur ni.

Y gwenwyn drwg, a gerddodd trwy
Wythenau eu hiliogaeth hwy:
  Trwy gamwedd un, ni aethom oll
  Yn bechaduriaid gwael ar goll.

At ddrwg y mae tueddiad mawr,
Yn ein naturiaeth ni yn awr,
  Ond at y da gwrth'nebiad dig,
  Yn hâd y sarph,
      o hyd a drig.

Ni's gallwn fyth trwy'r gyfraith fyw,
Na haeddu dim o heddwch Duw,
  Ofnadwy yw ein cyflwr caeth,
  Tan felldith deddf y Duw a'n gwnaeth.

Ond O! anfeidrol gariad Duw,
A'i nefol ras i ddynolryw;
  Do, ar y groes fe ddygodd Crist,
  Ein camwedd trwm a'n cerydd trist.

Fe lunia Adda'r ail ei hâd,
Yn lân a doeth ar ddelw'i Dâd;
  Dyg hwy i dêg Baradwys Duw,
  Anfeidrol well nag Eden wiw.
Benjamin Francis 1734-99

Tonau [MH 8888]:
Babylon Streams (Thomas Campion 1567-1620)
Bampton (<1829)

(Man breaking God's law)
God gave gave to the woman and the man,
Whom he made in his own image,
  As a broad root of all humankind
  A beautiful commandment,
      and a worthy law.

But fall truly did the woman,
Through believing the determined
    hellish dragon;
  Adam transgressed through her,
  And corrupt he did our nature.

The evil poison travelled through
The veins of their descendants:
  Through the mistake of one, we all became
  Base, lost sinners.

Towards evil is the great tendency
In our nature now,
  But towards the good an angry opposition,
  In the seed of the serpent,
      always shall live.

We cannot ever through the law live,
Nor deserve anything of the peace of God,
  Terrible is our captive condition,
  Which put us under the curse of the law.

But O, the immeasurable love of God!
And his heavenly grace towards humankind;
  Yes, on the cross Christ bore,
  Our heavy trespass and our sad reprimand.

The second Adam fashions his seed,
Holy and wise in the image of his Father;
  He leads them to God's fair, immortal
  Paradise better than worthy Eden.
tr. 2020 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~