1,2,3,4,5,6; 1,2,3,5. Bachgen a aned, Mab ro'ed in'; Ei enw sy'n Rhyfeddol; Ar ysgwydd hwn llywodraeth gaed, Duw cadarn, Tad tragwyddol. Chwilio ei berson hardd, a'i waith, Sy'n orchwyl maith anfeidrol; Fe elwir yma, a thrwy'r ne', Ei enw e'n Rhyfeddol. Deonglwch hyn, ddysgedig rai: Rhyfeddu mae'r cenhedloedd - P'odd gall'sai Mair ei gynnwys ef Na chynnwys nef y nefoedd? Duw mawr, Creawdwr dŵr a thir, I gael ei wir genhedlu Gan forwyn wnaethpwyd ganddo ei hun, Fy enaid sy'n rhyfeddu. Mae holl ddoethineb Duw ynghyd Yn cwrddyd yn ei berson; Nid rhyfedd fod myrddiynau'r nef 'N ei foli ef yn gysson. 'Roedd doniau ein Duw i gyd fel môr Dygyfor, heb eu rhifo, Gynt oll ynghudd, ond yr awr hyn Trwy'r Iesu yn disgleirio. - - - - - Bachgen a aned, Mab row'd in', Ei enw sy'n Rhyfeddol; Ar ysgwydd ef llywodraeth gaed, Duw cadarn, Tad tragwyddol. Chwilio ei Berson hardd, a'i waith, Sydd orchwyl maith anfeidrol; Mae ar y llawr, ac yn y ne', Ei enw E'n Rhyfeddol. Deonglwch hyn, ddysgedig rai: Rhyfeddu mae'r cenhedloedd - P'odd gall'sai Mair ei gynnwys Ef, Na chynnwys nef y nefoedd? Yr Hen Ddihenydd yn ddyn gwan, Mewn preseb dan ei rwymau; Y Gair tragwyddol ar lin Mair, Heb fedru gair o'i enau! Mae holl ddoethineb Duw yn nghyd Yn cwrddyd yn ei Berson; Nid rhyfedd fod y nefol lu Yn ei ryfeddu'n gyson. - - - - - Fe roddwyd Mab yn rhad i ni, Ei Enw sy'n Rhyfeddol; Ar ysgwydd Hwn llywodraeth gaed, Duw cadarn, Tad tragwyddol. Chwilio ei berson hardd, a'i waith, Sydd orchwyl maith anfeidrol; Mae ar y llawr, ac yn y ne' Ei Enw E'n Rhyfeddol. Yr Hên Ddihenydd yn ddyn gwan Mewn preseb, dan ei rwymau; Y Gair tragwyddol ar lîn Mair Heb fedru gair â'i enau! Mae holl ddoethineb Duw yn nghyd Yn cwrddyd yn ei Berson; Nid rhyfedd fod y nefol lu Yn ei addoli'n gyson. I'r TAD, a'r MAB, a'r YSPRYD GLÂN Dyrchafer cân Clodforedd, Fel gynt yr oedd, y mae'n ddilyth, A phery byth heb ddiwedd.William Williams 1717-91
Tonau [MS 8787]: gwelir: Mae doniau Duw i gyd fel môr |
A boy was born, a Son given to us; His name is Wonderful; On his shoulder government is had, Mighty God, eternal Father. Seeking his beautiful person, and his work, Is a vast, immeasurable task; He is to be called here, and throughout heaven, His Name is Wonderful. Interpret this, learned ones: The nations are amazed - How could Mary contain him That the heaven of heaven does not contain? Great God, the Creator of water and land, Truly to be begotten Of a virgin made by himself, My soul is wondering. All the wisdom of God altogether is Meeting in his person; No wonder that myriads of heaven are Praising him constantly. All the gifts of our God were like a Swelling sea, without number, Once all hidden, but now Through Jesus shining. - - - - - A boy was born, a Son was given to us, His name is Wonderful; On his shoulders government is found, A firm God, an eternal Father. Searching his beautiful Person, and his work, Which is a vast, immeasurable task; On the earth, and in heaven, His name is Wonderful. Interpret this, learned ones: The nations are amazed - How could Mary contain Him, That the heaven of heaven does not contain? The The Ancient of Days in weak man, In a manger under his bonds; The eternal Word on Mary's knee, Without being able to utter a word! All the wisdom of God altogether is Meeting in his Person; No wonder that the heavenly host is Wondering at him constantly. - - - - - A son was given freely to us, His name is Wonderful; On His shoulder government is had, Mighty God, eternal Father. Searching his beautiful person, and his work, Is a vast, immeasurable task; On the earth, and in heaven His Name is Wonderful. The Ancient of Days in weak man In a manger, under his swaddling bands; The eternal Word on Mary's knee Without the ability of a word with his mouth! All the wisdom of God altogether is Meeting in his Person; No wonder that the heavenly host be Worshipping him constantly. To the FATHER, and the SON, and the HOLY SPIRIT Be raised a song of praise, As it was formerly, it is unfailingly, And shall continue forever without end.tr. 2015,18 Richard B Gillion |
|