Fe syrth aneirif sêr y nen
Fe syrth y sêr i lawr o'r nen

(Y Cristion yn ddiangol)
1,(2),3,4.
Fe syrth aneirif sêr y nen,
Tywylla'r bydoedd mawr uwchben,
    Fe sych y môr;
  Bydd f'Arglwydd Iôr
       yr un o hyd.

Bydd gwraig yr Oen
    y boreu hwn,
Yn iach a llon,
    heb boen na phwn,
  Ar ddeheulaw,
Ei phriod draw,
        heb farw byth.

Ceir gweld y dyrfa ddisglair fawr,
Rifedi gwlith y bore wawr,
  Heb friw na phoen,
Yn canu i'r Oen
        y newydd gân.

O! gwyn eu byd y dyrfa fawr,
Yn iach a hedodd uwch y llawr;
  Marwolaeth mwy
Ni chwrdd â hwy
    sydd fry mewn hedd.

             - - - - -

Fe syrth y sêr i lawr o'r nen,
Fe d'wylla'r bydoedd mawr uwchben;
    Fe sych y môr;
  Bydd f'Arglwydd Iôr
        yr un o hyd.

A thwrf, y nefoedd heibio'r ânt,
  Ar holl elfenau toddi wnant;
    Paid nos a dydd,
  Ond Iesu fydd
        yr un o hyd.

             - - - - -

Fe syrth y sêr i lawr o'r nen,
Fe d'w'lla'r bydoedd mawr uwch ben,
    Fe sych y môr,
  Bydd f'Arglwydd Iôr
        yr un o hyd.

Bydd gwraig yr Oen
      y bore hwn
Yn canu'n iach, heb boen na phwn;
    Ar ddeheulaw,
  Ei phriod draw,
        heb farw byth.

Cair gwel'd y dyrfa ddisglaer fawr,
Rifedi gwlith y bore wawr,
    Heb friw na phoen,
  Yn canu i'r Oen
        y newydd gân.

O gwyn eu byd y dyrfa fawr,
Yn iach a 'hedodd uwch y llawr;
    Marwolaeth mwy,
  Ni chwrdd â hwy
        sydd fry mewn hedd.

Mae gwedd ei wyneb yn iachâu
Y cleifion a'r dolurus rai,
    Fy meddyg yw,
  Nis gallaf fyw
        byth heb fy Nêr.

O! golch fi yn y ffynnon fawr
A redodd dan dy fron i lawr,
    O ddwfr a gwaed,
  Rho i mi'n rhad
        fy llwyr lanhâu.
Morgan Rhys 1716-79

Tonau [884(4)8]:
Andernach/Glanclwyd (Andernach Gesangbuch 1608)
Cân 34 (Orlando Gibbons 1583-1625)
Job (William Arnold 1768-1832)
Luther's Chant (H C Zeuner 1795-1857)
Lledrod (Caniadau y Cyssegr 1839)
Samson (George Frederick Handel 1685-1759)
Teml Sïon (<1835)
Winchester (Musicalisches Hand-Buch 1690)

gwelir:
  Ceir gwel'd y dyrfa ddysglaer fawr
  Mae'r diwrnod mawr yn d'od

(The Christian safe)
 
The innumerable stars of the sky shall fall,
The great worlds overhead shall darken,
    The sea shall dry;
  My Sovereign Lord shall
        be the same always.

The bride of the Lamb shall be,
      on that morning,
Healthy and cheerful,
      without pain or burden,
    At the right hand,
  Of her spouse yonder,
        without dying ever.

The great, shining host is to be seen,
Numerous as the dew of the morning dawn,
    Without bruise or pain,
  Singing to the Lamb
        the new song.

O blessed are the great throng,
Who flew whole above the ground;
    Death no more
  Shall meet with those
         who are above in peace.

                 - - - - -

The stars shall fall down from the sky,
The great worlds overhead shall darken,
    The sea shall dry;
  But my Sovereign Lord shall
        be the same always.

And a crowd, the heavens shall pass,
And all the elements melt they shall do;
    Night and day shall cease,
  But Jesus shall be
        the same always.

                  - - - - -

The stars shall fall down from the sky,
Great worlds overhead shall darken,
    The sea shall dry up,
  My Sovereign Lord shall
         be the same always.

The bride of the Lamb
      on that morning shall be
Singing healthily, without pain or injury;
    At the right hand,
  Of her spouse yonder,
        without dying ever.

The great shining throng is to be seen,
Numerous as the dew of the morning dawn,
    Without bruise or pain,
  Singing to the Lamb
        the new song.

O blessed are the great throng,
Healthy and flying above the ground;
    Death no longer,
  Shall meet them
       who are above in peace.

The countenance of his face is healing
The wounded and the sad ones,
    My physician he is,
  I cannot live ever
        without my Master.

O wash me in the great fount
That ran down under thy breast,
    Of water and blood!
  Grant me freely
        my complete cleansing!
tr. 2015,16 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~