Fe wawriodd dydd uwch Bethlem dref Pan oedd angylion ag un llef Yn seinio moliant pêr ynghyd Am eni Ceidwad mawr y byd. Ni wyddai gwraig wrth gynnau tân Na fu erioed bereiddiach cân; Ni wyddai gŵr wrth droi i'w waith, Ni wyddai'r hen na'r plant ychwaith. Ni wyddai'r llon, ni wyddai'r prudd Mai hwn oedd y rhyfeddol ddydd Pan roes bugeiliaid ar eu hynt Anfarwol gân ar flaen y gwynt. Ni wyddai mawrion balch eu trem, Ni wyddai'r tlawd fod "Bethlehem" Yn enw nad âi'n angof mwy Ar fôr na thir – ni wyddent hwy.Thomas Rowland Hughes 1903-49
Tôn [MH 8888]: Bethlehem |
Day dawned above the town of Bethlehem When angels were with one voice Sounding sweet praises together About the birth of the great Saviour of the world. No woman, while lighting a fire, knew Whether there was ever a sweeter song; No man, while turning to his work, knew, Neither knew the old nor the children either. Neither the cheerful, nor the sad knew That this was the wonderful day When shepherds on their course gave An immortal song before the wind. The great and haughty ones did not know The poor did not know that "Bethlehem" was A name that would nevermore be forgotten On sea or land - they did not know.tr. 2023 Richard B Gillion |
|