Fel Rhosyn Saron coron gardd, Fel lili hoff ddyffrynol hardd Y gwynn a'r coch sy'n lan o liw, I ddenu'n rhwym ferch dynol-ryw. Mae'n goch o ran ei ddyndod mwyn, Yn ei ddioddefaint dros ei ŵyn; Mae'n wynn o'i Duwdod mawr o nerth, Yn gwneud ei waith o berffaith werth. Fel pren afalau ym mysg y coed, Mae'i Berson glan yn haeddu clod; Natur y pren a'i nefol nof, A dry ganghennau gwyllt yn ddof. O'i ben i'w draed mae'n hawddgar oll, Heb un perffeithrwydd yntho ar goll; O dyma fy Anwylyd i, Fy Mrawd, a'm Ffrynd, a'm Cyfaill cu. I gadarnhâu'r berthynas hon, O frawd i ni i'n bri o'n bron; Fe roes ei hun yn briod im', I nerthu'm ffydd yn gryf mewn grym.John Henry (Harri Sion) 1664-1754 Amryw Hymnau Dymunol a Phrofiadol 1773 [Mesur: MH 8888] |
Like the Rose of Sharon a garden's crown, Like the beautiful fond lily of the valley, The white and the red that are pure of colour, To captivate the daughter of human-kind. He is red in terms of his dear humanity, In his suffering for his lambs; He is white from his Divinity great of strength, Doing his work of perfect worth. Like an apple tree in the midst of the wood, His pure Person deserves praise; The nature of the tree and its heavenly sap, Turn wild branches tame. From his head to his feet he is altogether beautiful, Without any perfection missing from him; O here is my Beloved, My Brother, and my Friend, and my dear Companion. To establish this relationship, Between a brother and us completely to dignify us; He gave himself as my own to me, To strengthen my faith firm in power.tr. 2021 Richard B Gillion |
|