Ffarwel greaduriaid gwych'u rhyw, Pob enau îs y ne'; Ni welaf wrthrych wrth fy modd Yn unig ond Efe. Mae'i ddoniau yn rhagori 'mhell Ar holl frenhinoedd byd; A theimlo 'rwyf ei fod ei hun Yn hollol lanw 'mryd. Mae'i eiriau fel y diliau mêl, A'i holl orch'mynion sy I gyd yn dangos rhinwedd maith Sancteiddrwydd nefoedd fry. Mae'i addewidion fel yr haul, Yn sicr gadw'u lle; Ac nid ä'r sillaf leia' ar goll O'i hyfryd eiriau e'. A minnau'n hollol ro'f fy mhwys Ar allu 'Mrenin mawr, Yr hwn a'm nertha i fyned trwy Gystuddiau maith y llawr.William Williams 1717-91
Tonau [MC 8686]: gwelir: Goleuni ac anfeidrol rym Mae ynddo drugareddau fil Y mae trysorau dwyfol ras |
Farewell creatures of most brilliant kind, Every name under heaven; I see no object to my satisfaction Except Him alone. His gifts are far excelling Over all the kings of the world; And feeling I am that he himself is Wholly flooding my mind. His words are like the combs of honey, And all his commandments are Altogether showing the vast virtue Of the holiness of heaven above. His promises are like the sun, Securely keeping their place; And not the least syllable shall go missing Of his delightful words. As for me, I shall wholly lean On the power of my great King, He shall strengthen me to go through The vast tribulations of earth.tr. 2016 Richard B Gillion |
|