Ffarwèl, mi âf yn mlaen i'r wlad Lle mae fy Nhad yn trigo, Yn mhlith myrddiynau rif y gwlith, A gwynfyd fyth f'ai yno. Mi ddringa' i'r làn; yn uchel fry Mae'r hyn wyf fi'n ei geisio; Gadawa'r byd o'm hôl, heb lai, Yn wastad mae'n fy rhwystro. 'B'le tro'f fy wyneb, Arglwydd cu, Ond atat Ti Dy Hunan? Pob peth gweledig, 'thal ef ddim, Ond gwneuthur imi riddfan. Gâd i mi lechu yn dy gôl, Ac na'd fi'n ol oddi yno, Ac yn y clwyfau dyfnion wnaed O fewn dy draed a'th ddwylo. Gyfeillion, beth allwch wneud im'? 'Does gennych ddim cysuron; Fy serch sydd mwy am fyn'd yn mhell Ar bethau gwell yn gyson. Mae brodyr im' ar ben eu taith, Mewn newydd iaith yn canu; Pa bleser sy yma imi mwy? Dŵg fi atynt hwy i fyny. O dewch i mewn, mae etto le O fewn y ne' yn barod, Canys anfeidrol yw ei râs, Ni all pechod câs ei orfod.
Tonau [MS 8787]:
gwelir: |
Farewell, I will go onwards to the land Where my Father is dwelling, Amongst myriads numerous as the dew, And blessed forever it would be there. I will climb up; high above This is what I am seeking; To leave the world behind me, no less, Constantly it is frustrating me. Where shall I turn my face, dear Lord, But towards Thee Thyself? Everything visible, it profits nothing, But to make my groan. Let me hide in thy bosom, And do not leave me behind from there, And it the deepest wounds made In thy feet and thy hands. Companions, what can ye do for me? Ye have no comforts; My affection is greater for going far On better things constantly. I have brothers at the end of the journey, In a new language singing; What pleasure is there here for me any more? Draw me up towards them. O come in, there is still room Within heaven ready, Since immeasurable is his grace, Detestable sin cannot overcome it. tr. 2016,22 Richard B Gillion |
|