Ffynnon wyt o bob tosturi, Nid oes gwybod faint dy râs; Dy haelioni sydd yn cynnal Pobpeth dan yr awyr lâs. Dal fy ysbryd gwàn i fyny, Edrych ar y bryniau mawr, Sydd yn pwyso ar fy nghalon, Ac sy'n ceisio'm dodi lawr. Mae ei glustiau yn agored I bob rhyw ddrylliedig lef; Ac mae'r drom ochenaid glwyfus Yn cyrhaeddyd ato Ef. Pan b'o t'wyllwch ac anobaith Yn amgylchu'm llwybrau cudd, Fe ddaw 'mlaen, fe dry y cyfnos Can goleuach hanner dydd. Maith drugaredd a gwirionedd, A'r tiriondeb mwya'i maes, Sy' fel heulwen haf yn ddysglaer, Trwy holl ranau pur ei ras. Boed fy nhafod fyth tra fyddwyf Gerdded ar yr anthem hyn, Cariad pur yn dyoddef marw Tros bechadur ar y bryn.William Williams 1717-91
Tonau [8787]: [Hefyd mesur: 8787D] gwelir: Deued dyddiau o bob cymmysg Dyro olwg ar dy haeddiant Gwlad o d'wllwch wyf yn trigo Mae ei glustiau yn agored Pa gyfnewidiadau bynag Tan y don yr wyf yn llefain |
A fount art thou of every mercy, There is no knowing the extent of thy grace, Thy goodness is upholding Every thing under the blue sky. Hold my weak spirit up, Look on the great hills, Which are weighing on my heart, And trying to put me down. His ears are open To every kind of broken cry; And heavy wounded groans are Reaching Him. Whenever the darkness and hopelessness be Surrounding my hidden paths, He will come forward, he will turn the twilight A hundred-fold brighter than midday. Vast mercy and truth, And the greatest tenderness there is, Are like the sunshine of summer shining, Through all the pure parts of his grace. May my tongue be, while ever I am Walking, on this anthem, Pure love suffering death For a sinner on the hill.tr. 2015 Richard B Gillion |
|