Frenin mawr y greadigaeth, Gwrando'n cri o'r cystudd mawr; Yng ngoleuni'th waredigaeth Disgyn i'r dywyllaf awr. Gwagedd yw gogoniant dynion, Cwympo wna gorseddau'r byd; Taena drosom nawdd y Goron Sydd yn dàl yr un o hyd. Maddeu, Arglwydd, ein camweddau, Maddeu'n rhyfyg balch a ffôl; Maddeu wyrni'n pell grwydriadau, Arwain ni i'th ffordd yn ol; Plygwn i'th geryddon cyfiawn, - Mawr yw annheilyngdod dyn; Ond mae'th gariad fyth yn gyflawn, - Cariad ydwyt Ti Dy hun. Ymddisgleiria, Iesu hawddgar, O Dy orsedd wen i lawr; Plyged holl benaethiaid daear Yn y llwch, i'r Brenin Mawr; Rhwym gyfiawnder am genhedloedd, Yn Dy gariad gwna hwy'n un; A daw'r ddaear fel y nefoedd Dan lywodraeth Mab y Dyn.John Owen Williams (Pedrog) 1853-1932 Tôn [8787D]: Sammah (D Emlyn Evans 1843-1913 |
Thou great King of creation, Listen to our cry from the great tribulation; In the light of thy deliverance Descend to the darkest hour. Emptiness is the glory of men, Fall shall the thrones of the world; Spread over us the protection of the Crown That remains the same forever. Forgive, Lord, our trespasses, Forgive our rash pride and foolishness; Forgive the waywardness of our far wanderings, Lead us back to thy way; Let us bow to thy righteous chastisement, - Great is the unworthiness of man; But thy love is forever full, - Love art Thou Thyself. Shine, thou beautiful Jesus, Down from thy white throne; Let all headships of the earth bow In the dust, to the Great King; Bind thou justice for nations, In thy love make them one; And may the earth become like heaven Under the government of the Son of Man.tr. 2020 Richard B Gillion |
|