F'enaid gwêl y fan gorweddodd
Fy enaid gwel y fan gorweddodd
O f'enaid gwêl y fan gorweddodd

(Iddo Ef)
Fy enaid, gwel y fan gorweddodd
  Pen breninoedd, Awdwr hedd;
Yr holl gre'digaeth ynddo'n symud,
  Yntau'n farw yn y bedd;
Rhan, a bywyd colledigion,
  Rhyfeddod holl angylion nef;
Ei wel'd mewn cnawd,
    a'i felus foli,
  Mae'r côr, gan weiddi, "Iddo Ef."

Pryd daw'r dydd caf finnau orphwys
  Oddiwrth fy llafur yn fy rhan,
Yn nghanol môr o ryfeddodau,
  Heb waelod, terfyn, trai, na glan:
Yn cael byth fynediad helaeth
  O fewn trigfanau Tri yn Un;
Dw'r i nofio heb fyn'd trwyddo,
  Yw dyn yn Dduw, a Duw yn ddyn.

              - - - - -

O, f'enaid, gwêl y fan gorweddodd
  Pen breninoedd, Awdwr hedd;
Y greadigaeth ynddo'n symud,
  Yntau'n farw yn y bedd;
Rhan, a bywyd colledigion,
  Rhyfeddod holl angylion nef;
Gwel'd Duw mewn cnawd,
    a'i gydaddoli,
  Mae'r côr, gan weiddi, "Iddo Ef."

Byw heb wres na haul yn taro,
  Byw heb ofni marw mwy;
Pob rhyw alar wedi darfod,
  Dim ond canu am farwol glwy';
Nofio yn afon bur y bywyd,
  Bythol heddwch sanctaidd Dri, -
Tan d'wniadau digymylau,
  Gwerthfawr angeu Calfari.

              - - - - -

F'enaid, gwêl y fan gorweddodd
  Pen breninoedd, Awdwr hedd;
Angeu creulon wedi faeddu,
  Cododd Iesu i fyny o'i fedd.
Yn y nef mae heddyw'n eriol,
  Dros ei bobl yn y byd;
Tra parhao oes dragwyddol,
  Cenir am ei angeu drud.    [JH]

Gan i'r Arglwydd adgyfodi,
  Ni wnaf ofni marw mwy;
Pob rhyw alar wedi darfod,
  Dim ond canu am farwol glwy';
Nofio yn afon bur y bywyd,
  Tua'r hafan hyfryd fry,
Dan d'wniadau digymylau,
  Gwerthfawr angeu Calfari.  [JH]
Ann Griffiths 1776-1805
[JH] = newidiwyd gan John Hughes 1776-1843

[Mesur: 8787D]

gwelir:
Bererin llesg gan rym y stormydd
Bydd melys gweld y cyfammod
Draw ar gopa bryn Golgotha
O ddedwydd awr tragwyddol orffwys
O ddyfnderoedd iachawdwriaeth
Rhyfedd rhyfedd gan angylion

(Unto Him)
My soul, see the place where lay
  The Head of kings, the Author of peace;
The whole creation in him moving,
  While he is dead in the grave;
The portion, and life of the lost,
  The wonder of all the angels of heaven;
Seeing him in flesh,
    and sweetly praising him,
  Is the choir, while shouting, "Unto Him."

When shall the day come, when I may rest
  From my labour as my portion,
In the midst of a sea of wonders,
  Without bottom, limit, ebbing, or shore:
Getting forever generous access
  Within the dwellings of Three in One;
Water to swim without going through it,
  Is man as God, and God as man.

                - - - - -

O, my soul, see the place where lay
  The Head of kings, the Author of peace;
The creation in him moving,
  While he is dead in the grave;
The portion, and life of the lost,
  The wonder of all the angels of heaven;
Seeing God in flesh,
    and worshipping him together,
  Is the choir, while shouting, "Unto Him."

Living with neither sun nor heat beating,
  Living without fear of dying any more;
Every kind of lamenting having vanished,
  Only singing about a mortal wound;
Swimming in the pure river of life,
  Everlasting peace of the sacred Three, -
Under the cloudless shinings
  Of the precious death of Calvary.

                - - - - -

My soul, see the place where lay
  The Head of kings, the Author of peace;
Having beaten cruel death,
  Jesus rose up from the grave.
In heaven he is today interceding,
  For his people in the world;
While an eternal age endures,
  His precious death is to be sung about.

Since the Lord rose again,
  I shall not fear death any more;
Every kind of lamenting having vanished,
  Only singing about a mortal wound;
Swimming in the pure river of life,
  Towards the delightful harbour above,
Under the cloudless shinings
  Of the precious death of Calvary.
tr. 2020 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~