Fy enaid gwel i Galfari

(Dyoddefaint, angeu a buddugoliaeth Crist.)
Fy enaid gwel i Galfari,
Y poen angherddol yno fu;
  Torfeydd diri',
      â'u harfau ynghyd,
  Am goncro brenin
      mawr y byd.

Holl deyrnas satan
    fawr ei grym,
Pob ellyll du a'i arf yn llym;
  Llid a chynddaredd, dòn a thòn,
  Yn rhuthro arno'r fynyd hon.

Pechodau dynolryw i gyd,
Wedi'u pentyru arno ynghyd,
  A'u gwasgant Ef
      yn dorf ddiri',
  Nes iddo chwysu'r gwaed yn lli'.

Etto, er cyngrair dae'r a nen,
A lladd fy Arglwydd ar y pren,
  Felly'r yspeiliwyd uffern fawr,
  Ac felly tynwyd nef i lawr.
William Williams 1717-91

[Mesur: MH 8888]

(The suffering, death and victory of Christ.)
My soul, look to Calvary,
The intense pain that was there;
  Numberless throngs,
      together with their weapons,
  Wanting to conquer the great
      king of the world.

All the kingdom of satan
    with its great force,
Ever black demon with its sharp weapon;
  Wrath and rage, wave upon wave,
  Roaring upon him that minute.

All the sins of humankind,
Heaped upon him altogether,
  And they press him
      as an innumerable throng,
  Until he sweats the blood as a flood.

Still, despite the league of earth and sky,
That kills my Lord upon the tree,
  Thus great hell was spoiled,
  And thus heaven was brought down.
tr. 2020 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~