Fy enaid mae am ganu mawl, Am roi im' hawl o'r nefoedd fry; Trwy chwys a gwaed yr addfwyn Oen, A'i ddirfawr boen ar Galfari. Yno y bu afonydd mawr, O waed i'r llawr yn d'od yn lli'; I'm dwyn i'r nef o'm 'ffernol Nyth, Mi gofia byth am Galfari. Mi gofia ei gri ef ar y groes, Yn eiriol tros ei ddefaid rhi; Gan bledio â'i Dad am fadde'u bai; Byth cofio wnai am Galfari. Gwirion a llonydd fel yr oen, Dioddefai boen ein beiau ni, Yn fodlon yn ei chwys a'i wae; Byth cofio wnai am Galfari. 'Nol aros oriau ar y pren, Fe grymmai ben tua 'r ddaear ddu; Gorphennwyd iechydwriaeth do, Boed hyn mewn co' am Galfari. Yno bu farw f'anwyl Ffrynd; I mi gael mynd i'r nefoedd fry; Pan bwi ymhlith angylaidd rai, Byth cofio wnai am Galfari. Trywanwyd yno waywffon, Mewn tan ei fron, er maint ei fri; Daeth dw'r a gwaed i'r llawr yn llyn, Byth collaf ben bryn Calfari.William Williams 1717-91 Aleluia 1749 [Mesur: MH 8888] |
My soul wants to sing praise, For giving me a right from heaven above; Through the gentle Lamb's sweat and blood, And his enormous pain on Calvary. There were great rivers there, Of blood coming down as a flood; To take me to heaven from my infernal nest, I shall forever remember Calvary. I shall remember his cry on the cross, Interceding for his numerous sheep; Pleading with his Father for forgiveness of their sin; I shall forever remember Calvary. Innocently and calmly like the lamb, He suffered the pain of our sins, Willing in his sweat and his woe; I shall forever remember Calvary. After staying for hours on the tree, He bowed his head toward the black earth; Salvation was finished, yes is was, Let this be in memory of Calvary. There died my beloved Friend; For me to get to go to heaven above; When I am among the angelic ones, I shall forever remember Calvary. He was pierced there by a spear, In under his breast, despite how great his status; Water and blood came down as a lake, I shall forever remember the summit of the hill of Calvary.tr. 2024 Richard B Gillion |
|