Fy enaid rhaid fod Duw

(Duw a'i briodoliaethau - Creawdwr)
  Fy enaid, rhaid fod Duw:
    Mae holl dafodau'r nef
  Yn traethu wrth y byw
    Am ei ogoniant ef;
Mae dydd yn dweyd wrth ddydd a glyw,
A nos wrth nos o hyd fod Duw.

  Pob seren glaer uwchben
    A ddywed wrth y llall, -
  Mae llywydd mawr y nen
    A'u lluniodd yn ddiball;
Mae byd wrth fyd o hyd yn dweyd,
Mae dwylaw Duw fu yn eu gwneyd.

  Argraffwyd Enw'r Ior,
    Y eglur ar bob rhan -
  Ar frigwyn dònau'r môr,
    Ac hefyd ar y lan;
Dweyd wrth eu gilydd am yr Ior,
Mewn eglur iaith, mae tir a môr.
Ddeuddeg cant ac un o Hymnau (y Bedyddwyr) 1868

[Mesur: 666688]

(God and his attributes - Creator)
  My soul, it must be that God is:
    All the tongues of heaven are
  Expounding to the living
    About his glory;
Day is speaking to day which hears,
And night to night always that God is.

  Every shining star overhead
    Is saying to the other, -
  The great governor of the heavens
    Has designed them unfailingly;
World unto world is still saying,
That God's two hands have made them.

  The Lord's name is printed,
    Clearly in every sense -
  On the white tops of the sea's waves,
    And also on the shore;
Telling each other about the Lord,
In a clear language, are land and sea.
tr. 2012 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~