Fy enaid tua'r nefoedd 'hed

Fy enaid tua'r nefoedd 'hed,
Taena dy galon oll ar led,
  A doed cystuddiau'i mewn yn lli',
  Eu taflu wnaf i'th fynwes di;
'Does unrhyw ofid, unrhyw boen,
Na wasgodd ar yr addfwyn Oen,
  Ac yn ei ofid Ef a'i gri,
  Mae holl esmwythder f'enaid i.

Mi wn mae 'meiau duon drud,
Yw'r achos o'm cystuddiau 'i gyd,
  Symud fy mai, fe gwymp y ffon,
  O'th sanctaidd law y fynyd hon;
'Does yn dy galon ond llesād,
Maddeuant, hedd, a gwir iachad,
  Cymer dy ffordd, ynot yr wyf
  Yn credu 'nawr - iacha fy nghlwyf.

              - - - - -
(Esmwythdra yn Nghrist)
Fy enaid tua'r nefoedd hźd,
A thaen dy galon yno ar led,
  A doed cystuddiau mewn yn lli',
  Mi a'u tafla' i dy fynwes di;
'Does unrhyw ofid, unrhyw boen,
Na wasgodd ar yr addfwyn Oen,
  Ac yn ei ofid ef a'i gri
  Mae holl esmwythder f'enaid i.

Pan del fy Nuw i ben a'i awr,
I roi cystuddiau i mhwyso i lawr,
  Rhaid i ergydion pur y ne'
  I gadw eu pryd a chadw eu lle;
Nis rho'wd i'm lladd,
    ond i gael byw,
Af innau trwyddynt yn fy Nuw:
  Tros byth caiff genyf
      gān ddigoll,
  Am iddo'm dwyn i trwyddynt oll.
William Williams 1717-91

Tonau [MHD 8888D]:
Bethesda (R S Hughes 1855-93)
Rostoc (<1875)

Tonau [MH 8888]:
Exeter (William Dorrell 1810-1896)
Golgotha (John B Dykes 1823-76)
Melindwr (<1869)

gwelir:
  Mae'n perthyn i mi bob rhyw bla
  O tyr'd i ben ddedwyddaf ddydd

My soul, towards heaven fly,
Spread all thy heart wide,
  And come afflictions in as a flood,
  Throw them I shall do into thy bosom;
There is no kind of grief, no kind of pain,
That did not press on the gentle Lamb,
  And in His grief and his cry,
  Is all the relief of my soul.

I know that my costly, black sins,
Are the cause of all my afflictions,
  My fault remove, the stick shall fall,
  From thy holy hand that minute;
There is in thy heart only benefit,
Forgiveness, peace, and true healing,
  Take thy way, in thee I am
  Believing now - heal my disease!

                 - - - - -
(Relief in Christ)
My soul, towards heaven fly,
And spread thy heart there wide,
  And come afflictions in as a flood,
  I shall throw them into thy bosom;
There is no kind of grief, no kind of pain,
That did not press on the gentle Lamb,
  And in His grief and his cry,
  Is all the relief of my soul.

When my god brings to an end his hour,
To give afflictions to weigh me down,
  The pure strokes of heaven must
  Keep their time and keep their place;
They were not given to kill me,
    but to get life,
I shall go through them in my God:
  For ever he shall get from me
      an unfailing song,
  For bringing me through them all.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~