Fy Iesu mwy fydd, fy noddfa bob dydd, O ddyfnder pydewau, fe'm rhoddodd yn rhydd: Ni feddaf iachad, un dim ond ei waed, Fy heddwch a'm haeddiant, fy nerth a'm parhad. Rhyw afon a gaed, o ddwfr ac o waed, O'r orsedd ddysgleir-deg, mae'n rhedeg yn rhad; I wella fy mriw, fy meiau o bob rhyw, A chąnu fy enaid, er dued ei liw. Boed yma fy nyth, a'm bywyd i byth, Yn nghlwyfau'r Oen tyner, a'i lawnder dilyth; Ac yna caf fyw, er croesau o bob rhyw, A'm henaid yn llawen, dan aden fy Nuw. I olchi fy mai, mae dy dyfroedd didrai, Er maint yw fy nghulni, 'dyw'n llenwi dim llai; Ac er 'mod i'n awr, yn llesg ar y llawr, Fe'm cenir yn ddiau, o feiau fu fawr. Wel, bellach mi a 'mlaen, trwy ddwr a thrwy dān, Er cymaint fy nyled, fe'i talwyd yn lān; Moliannu mwy fydd, fy mhleser bob dydd, 'Nol agor y carchar, pwy all fod yn brudd.William Williams 1717-91
Tonau [5565D]:
Tonau [5565]: gwelir: Rhyw afon a gaed Y cysur i gyd |
My Jesus evermore shall be, my refuge every day, From the depth of pits, he set me free: Nothing could heal at all but his blood, My peace and my virtue, my strength and my endurance. Some river there was, of water and of blood, From the shining-fair throne, it is running freely; To heal my bruise, my sins of every kind, And bleach my soul, despite how black its colour. Let my nest be here, and my life forever, In the wounds of the tender Lamb, and his unfailing fullness; And there I may get to live, despite crosses of every kind, And my soul joyful, Under the wings of my God. To wash my fault, thy waters are unebbing, Despite how great is my leanness, They fill it no less; And although I am now, feeble on the earth below, I shall be bleached no doubt, from faults that were great. So, now I shall go forward, through water and through fire, Despite how great my debt, it was paid in completely; Praising evermore shall be, my pleasure every day, After the opening of the prison, Who can be sad?tr. 2021 Richard B Gillion |
|