Fy meiau sydd heb rif, Ac mae fy maich yn drwm, Oll yn fy ngwasgu lawr, Fel mynydd mawr o blwm: Ar Ddwyfol Iawn mae 'mhwys a'm ffydd, Y caf fi dd'od ryw awr yn rhydd. Cyfiawnder addfwyn Oen, Diferion marwol glwy', Sydd yng nghlorianau'r nef, Yn pwyso mwy na mwy: Mae'r fainc yn rhydd, os pleidia f'hedd, Caf weled cariad yn dy wedd. Ac os ei gariad ddaw I'm cwrdd i, ffiaidd ddyn: Wel, dyma'r unig awr Ffieiddiaf fi fy hun; Gwel'd gras y nef yn afon waed, Yn golchi'r aflan brwnta' gaed. Pan ddelo'r hyfryd ddydd I mi gael gwel'd ei wedd, Ac yfed ffrydiau pur O'i annherfynol hedd, 'Mhlith lluoedd maith cwmpeini'r nen, Mi gana i'r cariad fu ar y pren.Cas. o Hymnau (... ein Heglwys) Daniel Jones 1863 [Mesur: 666688] gwelir: O nefol addfwyn Oen |
My faults which are without number, And my burden is heavy, Are all pressing me down, Like a great mountain of lead: On the divine Atonement I am leaning, and is my faith, That I may come free some hour. The righteousness of the gentle Lamb, The drops of a mortal wound, Are in the scales of heaven, Weighing more than more: The throne is free, if thou plead my peace, I shall get to see love in thy countenance. And if his love come To meet me, a detestable man: See, this is the only hour I shall detest myself; Seeing the grace of heaven as a river of blood, Washing the unclean filthiest there is. Whenever the delightful day should come For me to get to see his countenance, And drink pure streams From his boundless peace, Amongst the vast hosts of the company of the sky, I shall sing to the love that was on the tree.tr. 2020 Richard B Gillion |
|