Fy noddfa gadarn gref

(Yr Arglwydd yw fy rhan)
  Fy noddfa gadarn, gref,
    A'm tarian wyt, fy Nuw,
  Yn erbyn angeu du, 
    A drygau o bob rhyw:
'Rwy'n pwyso 'nghrêd ac fedda'i gyd
I'th air ffyddlonaf, pur a drud.

  Y gair melusa 'rioed, 
    Y cryfaf air ei rym, 
  Fe'i hail adroddaf ef -
    Fod Duw yn Brïod im;
Mae hyfryd sŵn a sylwedd hwn 
Yn tynu i ffwrdd fy maich a'm pẁn.

  Rhyw weithiau, filoedd maith 
    Adrodda'm testyn trwy;
  Cyhoedda' o flaen y byd -
    Fy Mhrïod yw Ef mwy:
Mae'r hyfryd sŵn yn ennyn tân
Na saif na byd na
      chnawd o'i flaen.

  Beth yw'r telynau aur
    Sydd gan angylion fry?
  Pa fath dafodau geir
    Gan nefol berffaith lu?
A feddant hwy felusach tôn
Nag am eu hawl i'r addfwyn Oen?
William Williams 1717-91

Tonau [666688]:
Beverley (1791 "The Psalms of David")
Darwall (John Darwall 1731-89)
Gwladys (William Tans'ur 1700-83)

gwelir:
  Beth yw'r telynau aur?
  I enw Crist a'i ras
  Mi bwysaf ar ei air

(The Lord is my portion)
  My strong, firm refuge,
    And my shield art thou, my God,
  Against black death,
    And evils of every kind:
I am resting my belief and all I possess
On thy faithful word, pure and costly.

  The sweetest ever word,
    The word of strongest force,
  I will report it again -
    That God  is a Spouse to me;
The lovely sound which this denotes is
Taking away my burden and my load.

  Some times, thousands in number
    I will report my subject through;
  I will publish before the world -
    My Spouse is He evermore:
The lovely sound is igniting fire
That neither world nor
      flesh shall stand before.

  What are the golden harps
    Which the angels above have?
  What kind of tongue are to be had
    By a perfect heavenly host?
Shall they possess a sweeter tune
Than for their claim to the gentle Lamb?
tr. 2014 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~