Fy Nuw gād imi brofi

(Gweddi am gymhorth)
Fy Nuw gād imi brofi
  Dy nawdd a'th nefol hedd,
Yr hyn wyt yn ei roddi
  I'th saint tu yma i'r bedd.

Fy enaid a chwennychodd
  Gael dy gymdeithas Di,
Trwy'r Hwn a ddyoddefodd
  Ar fynydd Calfari.

Rho olwg ar dy allu,
  I'm cynnal trwy fy oes,
Fel na b'o achos ofni
  Un brofedigaeth groes.

Fy enaid eiddil cynnal
  I deithio yn y blaen,
Ar hyd y dyrys anial
  Nes d'od i Salem lān.
Dafydd Morys 1744-91

Tonau [7676]:
Clwyd (J Ambrose Lloyd 1815-74)
Nordlingen (<1875)

(Prayer for help)
My God, let me experience
  Thy protection and thy heavenly peace,
That which thou art giving
  To thy saints this side of the grave.

My soul has craved
  To get thy fellowship,
Through him who suffered
  On the mountain of Calvary.

Grant a sight of thy power,
  To uphold me throughout my age,
That there be no occasion to fear
  Any contrary experience.

My weak soul uphold
  To travel on,
Along the troublesome desert
  Until coming to holy Salem.
tr. 2020 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~