Fe 'nillodd/enillodd Iesu'r dydd
Yr Iesu ga'dd y dydd

(Taer ddymuniad am gongcwest ar elynion)
Fe enillodd Iesu'r dydd,
  Mewn buddugoliaeth lawn,
Yn erbyn uffern fawr ei hun,
  Yn gryno un prydnhawn;
Fe agorodd byrth y nen
  Gan rwygo'r llen, i'r rhai
Cystuddiol gorthrymedig gwan,
  Sy'n griddfan dan eu bai.

Mae meiau'n fawr eu grym,
  Megis rhyw fyddin gref,
Yn sefyll fel y creigiau serth
  Yn erbyn nerth y nef:
Tyr'd anorchfygol ras,
  Perch'noga'r maes yn awr,
A thorr elynion mawr eu llid
  Yn gryno i gyd i'r llawr.

'Rwi'n ofni grym y dw'r
  Yn yr Iorddonen gref;
Rwi'n sylwi ar y creigiau maith
  Sydd ar fy nhaith i'r nef:
Duw bydd yn nerth i'r gwan,
  A dal fi i'r lan yn grŷ,
Tan demtasiynau genllif mawr
  Sy'n llanw'n awr'n llu.

Cyflawnir gair fy Nuw,
  A doed hi fel y del:
Can's holl amcanion nefoedd fry
  Bob sillaf sydd dan sźl;
Ac ar ei air a'i nerth,
  A dwyfol werth ei waed,
Mi āf trwy'm holl elynion hŷ
  I mewn i dŷ fy Nhad.

          - - - - -

Fe 'nillodd Iesu'r dydd,
  Mewn buddugoliaeth lawn,
Yn erbyn uffern fawr ei hun,
  Yn loyw un prydnawn;
Fe agorodd byrth y nen,
  O led y pen i rai,
Cystuddiol, gorthrymedig, gwan,
  Sy'n gruddfan dan eu bai.

Am hyny awn yn hŷ, 
  Trwy ganol lluoedd maith,
Heb ofni dyfais,
    grym, na'r llid,
  Sy'n cwrddyd ar ein taith;
Awn yno i Gālfari,
  Bu'r gwaed yn lli i'r llawr;
Ni gofiwn gariad pur dinam,
  Ni ganwn am yr awr.

Ni deithiwn yn y blaen, 
  Cawn weled Sion fryn,
Lle mae myrddiynau maith mewn hwyl,
  Yn cadw gwyl am hyn;
Cawn fyn'd i mewn i'w plith,
  I yfed byth o'i hedd,
Anfeidrol gariad perffaith gwiw,
  Tragwyddol yw y wledd.

Mi gana am waed yr Oen,
  Er maint fy mhoen a mhla,
Ni cheisia'n wyneb
    calon ddu,
  Ond Iesu'r meddyg da;
Fy mlino ge's gan hon,
  A'i throion chwerwon chwith,
Ond dyma'm sail i am y wlad,
  Y cariad a bery byth.

          - - - - -

Yr Iesu ga'dd y dydd,
  Ca'dd fuddugoliaeth lawn,
Yn erbyn uffern faith ei hun,
  Ar groesbren un prydnhawn.

Agorodd byrth y nen
  O led y pen i rai
Cystuddiol, gorthrymedig, gwan,
  Sy'n griddfan dan eu bai.

Am hynny awn yn hŷ
  Trwy ganol lluoedd maith,
Heb ofni dyfais, llid, na grym,
  Gelynion llym ein taith.

Cyd-deithiwn yn y bla'n,
  Yn lān i Sion fryn;
Lle mae myrddiynau maith mewn hwyl
  Yn cadw gŵyl am hyn.
William Williams 1717-91

Tonau [MBD 6686D]:
  Bridston (<1829)
  Evening Shade (<1825)
Lonsdale (<1825)
  New Burk (<1825)
Vermont (<1811)

gwelir:
Cyfiawnder marwol glwy
Gostega'r storom gref
I'r Iesu boed y clod
Mi gana' am waed yr Oen
Mi wela(f) fyrdd dan sel
Ni chaiff y dyfroedd maith
  'Rwy'n ofni grym y dŵr
'Rwyf yn terfynu 'nghred

(An urgent request for victory over enemies)
Jesus won the day,
  In a full victory,
Against great hell itself,
  Comprehensively one afternoon;
He opened the portals of heaven
  By tearing the curtain, for those
Afflicted, oppressed weak,
  Who are groaning under their fault.

There are faults of great force,
  Like some strong army,
Standing like the steep rocks
  Against the strength of heaven:
Come, insuperable grace,
  Possess the field now,
And cut enemies of great ire
  All, comprehensively down to the ground.

I fear the force of the water
  In the strong Jordan;
I notice the huge rocks
  Which are on my journey to heaven:
God will be a strength to the weak,
  And keep me up strongly,
Under the strong torrent of temptations
  Which are flooding now as a host.

My God's word will be fulfilled,
  And may it come as it may come:
Like all the intentions of heaven above
  Every syllable under a seal;
And on his word and his strength,
  And the divine worth of his blood,
I will go through all my haughty enemies
  Into my Father's house.

                - - - - -

Jesus won the day,
  In a full victory,
Against great hell itself,
  Brilliantly one afternoon;
He opened the portals of heaven,
  Wide to those
Afflicted, oppressed, weak,
  Who are groaning under their load.

Therefore let us go boldly,
  Through the centre of vast hosts,
Without fearing scheme,
    force, or the wrath,
  That is meeting us on our journey,
Let us go there to Calvary,
  The blood flowing down;
Let us remember pure, innocent love,
  Let us sing about the hour.

Let us travel in the fore,
  We shall get to see the hill of Sion,
Where vast myriads are in mirth,
  Keeping festival for this;
We shall get to go in amongst them,
  To drink forever from his peace,
Immeasurable love, perfect, worthy,
  Eternal is the feast.

I will sing about the blood of the Lamb,
  Despite my pain and my plague,
I will not search in the
    face of a black heart,
  But for Jesus the good physician;
Wearied I got by this,
  And its awkward bitter turns,
But here is my basis for the land,
  The love that shall endure forever.

          - - - - -

Jesus gained the day,
  He got a full victory,
Against vast hell itself,
  On a wooden cross one afternoon.

He opened the portals of heaven
  Wide open to those
Afflicted, oppressed, weak,
  Who are groaning under their fault.

Therefore let us go forward boldly
  Through the centre of vast hosts,
Without fearing the device, wrath or force,
  Of the keen enemies of our journey.

Let us travel onward together,
  Up to Zion hill;
Where vast myriads are in joyful mood
  Keeping festival because of this.
tr. 2009,23 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~