Fendigaid Frenin tirion

(Tyred, Iesu mawr.)
Fendigaid Frenin tirion,
  Concwerwr Calfari,
Na âd i ffol amheuon
  Ein cario gyda'r lli;
Mae cariad yn diffygio,
  A ffydd yn torri' i lawr;
I'n cynnal a'n bugeilio,
  O! tyred, Iesu mawr.

Mae D'addewidion distaw
  Yn dal o hyd yn llawn;
A thyrfa Dy ddeheulaw
  Yn canu am yr Iawn;
Dysg i genhedloedd daear
  Y newydd gân yn awr;
Ac i drigfannau galar,
  O! tyred, Iesu mawr.

Tydi yw'n hunig obaith
  Ymhob ystorom flin,
Na thro Dy wyneb ymaith,
  Dy wên sy'n ddwyfol hin;
Mae Seion o'r dyfnderoedd
 Yn disgwyl am y wawr,
I lwyddo teyrnas nefoedd,
  O! tyred, Iesu mawr.
Evan Rees (Dyfed) 1850-1923

[Mesur: 7676D]

(Come, great Jesus.)
Blessed gentle King,
  Conqueror of Calvary,
Do not let foolish doubts
  Carry us with the flood;
Love fails,
  And faith breaks down;
To uphold us and shepherd us,
  O come, great Jesus!

Thy quiet promises are
  Still full;
And the throng of thy right hand
  Singing about the atonement;
Teach earth's nations
  The new song now;
And to the lamenting dwellings,
  O come, great Jesus!

Thou art our only hope
  In every grievous storm,
Do not turn thy face away,
  Thy smile is divine weather;
Zion from the depths is
  Waiting for the dawn,
To prosper the kingdom of heaven,
  O come, great Jesus!
tr. 2021 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~