Fe gais yr oes ei gwynfyd Yn sŵn difyrrwch gau, Hen ddeall ysytr bywyd A'r mwyniant sy'n parhau; A'm henaid innau flina Ar ferw'r dyrfa hy; O! Dad rho imi yma Awr dawel yn dy dŷ. Ni cheir yng nghwmni'r dyrfa Ond pleser ennyd awr; Yr unig nef sy'n para Yw cymni f'Arglwydd mawr; A chyda'r pererinion A gais dy ŵyneb cu, Rho imi'n hael gysuron Awr dawel yn dy dŷ. Daw dynion yn siomedig Oddi wrth bleserau'r oes; Hudoliaeth byd a'i swynion A dry yn chwerw loes; Gwyn fyd y neb a brofodd Yr hedd sydd oddi fry; Ni siomwyd neb a gafodd Awr dawel yn dy dŷ.John Tywi Jones 1870-1948 (diwygiwyd yn Y Llawlyfr Moliant Newydd 1956-74) Tôn [7676D]: Llangloffan (alaw Gymreig) |
The age seeks its blessedness In the noise of false pleasure, Without understanding the meaning of life And the enjoyment that is enduring; But my own soul wearies At the bustle of the bold throng; O Father, give me here A quiet hour in thy house! In the company of the throng is got Only the pleasure of a brief hour; The only heaven that lasts Is the company of my great Lord; And with the pilgrims Who seek thy dear face, Give me as generous comforts A quiet hour in thy house. Men shall come disappointed From the pleasures of the age; The magic of the world and it's enchantments Shall turn into bitter anguish; Blessed is anyone who has experienced The peace that is from above; No-one is disappointed who got A quiet hour in thy house.tr. 2019 Richard B Gillion |
|