Fe genfydd Duw y drwg a'r da, Pa le'r ymguddia'r euog, Yn berffaith ddirgel byth ar goll, Oddi_wrth yr Hollalluog? Dirgelaidd lwybrau dynolryw, Sydd amlwg i'w olygon; A'i holl-wybodol yspryd clau, A chwilia giliau'r galon. Mae Duw yn gwybod yn ddi-ludd, Bob gair sydd ar ein gwefus; Dichellion dyfnion enaid dyn, I Dduw bob un sydd hyspys. Y cefnos ddû, fel canol dydd, I'w olwg ef sydd oleu: Dychryned y pechadur hy, Sy'n gwadu ei bechodau. Ei rasol bresenoldeb ef, A leinw nef y nefoedd; Ac ofna lluoedd uffern gaeth, Y Bôd a wnaeth y bydoedd.Benjamin Francis 1734-99 [Mesur: MS 8787] |
God perceives the evil and the good, Where can the guilty hide, Perfectly secret forever lost, From the Almighty? The private paths of humankind, Are evident to his views; And his omniscient, true spirit, Searches the recessess of the heart. God knows unhindered, Every word which is on our lip; The deep deceptions of the soul of man, To God every one is familiar. The black midnight, like midday, To his sight is light: Let the haughty sinner be terrified, Who is denying his sins. His gracious presence Shall fill the heaven of heavens; And the captive hosts of hell shall fear, The Being who made the worlds.tr. 2015 Richard B Gillion |
|