Fe'm llyngcwyd i fyny mewn syndod i gyd Wrth feddwl am angeu Iachawdwr y byd; Trysorau o gariad, trysorau o ras, Na fedr angylion eu gosod i maes. O! henffych, ddirgelion anfeidrol eu rhyw, A ddaeth i'r goleuni trwy glwyfau fy Nuw; Ni fydd tragwyddoldeb ddim gormod ei hun I chwilio dyfnderoedd fy Arglwydd yn ddyn. Ysbrydoedd rhai cyfiawn ddiangodd o'r byd, A hyn sy'n difyru eu hunain o hyd, Gan edrych i'r orsedd ddisgleirwen o'u blaen, A dyblu fyth eilwaith ac eilwaith eu cān. Eu cān sydd am gariad yn gwared y byd, Am undeb angylion a seintiau yn nghyd, Am ddoniau'r Messīah, am feithder ei loes, Ac am anfeidroldeb holl bwrcas y groes. "Y nerth a'r gogoniant, a'r gallu, a'r clod, I'r Hwn sydd yr awr hon, a'r Hwn sydd erio'd; I'r Alpha, Omega, i'r Drindod yn Un, I'r Oen a fu farw dros bechod y dyn." "'Does neb ar y ddaear, ni ddaw, ac ni fu, Yn deilwng i dderbyn yr enw ond ti: Ti brynaist y cwbl, ti rhoddaist yn rhad, Ti brynaist a'th fywyd, ti brynaist a'th wa'd."
Tonau [11.11.11.11]:
gwelir: |
I was swallowed up all in surprise While thinking about the death of the Saviour of the world; Treasures of love, treasures o grace, Angels cannot set them forth. O hail, secrets of an immeasurable kind, That came to the light through the wounds of my God; Eternity itself shall not be too long To search the depths of my Lord as man. Ye righteous Spirits who escaped from the world, And those who delight themselves always, By looking to the shining white throne before them, And forever double again and again their song. There song is about love delivering the world, About the unity of angels and saints together, About the gifts of the Messiah, about the extent of his anguish, And about the immeasurability of the whole purpose of the cross. "The strength and the glory, and the power, and the praise, To Him who is now, and Him who always was; To the Alpha, Omega, to the Trinity in One, To the Lamb who died for the sin of man." "There is none on the earth, nor to come, nor who was, Worthy to receive the name but thou: Thou didst redeem the whole, thou gavest freely, Thou didst redeem with thy life, thou didst redeem with thy blood." tr. 2017,18 Richard B Gillion |
|