Fe roed i mi ddymuniadau
Fe roed imi ddymuniadau
Fe rowd imi ddymuniadau

1,2,3,(4).
Rhan II
Fe roed imi ddymuniadau
  Nad oes dim o fewn y byd,
Yn y dwyrain na'r gorllewin
  A all hanner llanw 'mryd:
    Tragwyddoldeb,
  Yno llenwir fi yn llawn.

Mi gaf yno garu a fynnwyf,
  Cariad perffaith, pur, di-drai;
Cariad drwy ryw oesoedd mawrion
  Nad â fymryn bach yn llai:
    Môr diderfyn,
  Byth yn berffaith, byth yn llawn.

Mi gaf yno weld a garwyf,
  Gweld fy Iesu, gweld fy Nuw,
Gynt fu farw ar y croesbren,
  Heddiw'n ddisglair, heddiw'n fyw:
    Nef y nefoedd
  Sydd yn suddo yn ei hedd.

Mi gaf yn y wlad 'rwy'n myned
  Waredigaeth lwyr o'm poen;
Gorphwys draw i derfyn gofid
  Gyda'r addfwyn, anwyl Oen:
    Ni ddaw tristwch,
  Fyth i mewn dros furiau'r nef.
William Williams 1717-91

Tonau [878747]:
Alma (Samuel Webbe 1740-1816)
Frankfort (P Nicolai 1556-1608)
Mannheim (Friedrich Filitz 1804-1876)
Peniel (alaw gymreig)
St Garmon (1854 E M Price)
Talwrn (A George)
Tamworth (hen alaw)
Verona (alaw Almaenaidd)

gwelir: Rhan I - Nid oes draw gyferbyn imi

Part 2
May he grant my desires
  There is nothing within the world,
In the east nor in the west
  Which can half fill my intent:
       Eternity,
  That's where I am filled fully.

There I will get loved which I demand,
  Perfect, pure, unebbing love;
Love through some vast ages
  Not with a little moment less:
    An endless sea,
  Forever perfect, forever full.

There I will get to see what I love,
  To see my Jesus, to see my God,
Who once died on the cross,
  Today shining, today alive:
    Heaven of heavens
  Which sinks in his peace.

I will get in the land I am going
  Complete deliverance from my pain;
To rest yonder at the end of grief
  With the gentle, dear Lamb:
    No sorrow will come,
  Ever in across the walls of heaven.
tr. 2010 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~