Fe saif addewid fawr y Tad, A'i gariad byth heb ball; Gan iddo roi ei Fab dan glwy', Ein siomi mwy nis gall. Yn y cyfammod newydd wnaeth, Mae iachawdwriaeth dyn; I hwn, er mor annheilwng wyf, Rhoes imi hawl ei hun. Mae genyf yn ei 'wyllys ran, Er bod tan lawer loes; Pwrcasodd nefoedd imi'n rhodd, Pan drengodd ar y groes. I'w enw rhoddaf byth y mawl, Fe roes im' hawl i'r nef; Y testament hyfrydaf gaed, A'i waed y seliodd ef. Goleuni, nerth, a chymod rhad, Sydd yn dy waed i mi; Rhof finau bellach, yn ddiball, Fy hunan oll i ti.cyf. Cas. o Hymnau ... Wesleyaidd 1844
Tôn [MC 8686]: |
The great promise of the Father stands, And his love forever without faltering; Since he put his Son under a wound, It cannot disappoint us henceforth. In the new covenant he made, Is the salvation of man; To this, although so unworthy I am, He gave me his own right. I have in his will a part, Although under much distress; He purchased heavens for me as a gift, When he perished on the cross. To his name I will forever give praise, He gave me the right to heaven; The most delightful testament had, Which his blood did seal. Light, strength, and free reconciliation, Are in thy blood for me; I for my part will give henceforth, unfailingly, Myself all to thee.tr. 2010 Richard B Gillion |
|