Fe welir y dyddiau, fy Arglwydd a'i gŵyr, Pan darddo goleuni yng nghysgod yr hwyr; Pan ddelo'r gorllewin, y gogledd a'r de, I brofi cawodydd hyfrytaf y ne'. Fe gwymp yr addewid ar ddinas a gwlad, - Addewid bereiddiaf addewid y Tad; Tywelltir yr Ysbryd, fel moroedd di-drai, Ar lwythau hen Jacob yn fwy ac yn llai. O! ddyddiau dedwyddaf, wel brysiwch ymlaen, - Mae'r arfaeth yn galw, mae pechod ar dân; Mae pob peth yn aeddfed, mae gweddi mewn grym: O! tyred, ddeheuwynt, yn atal 'd oes dim.
Tonau [11.11.11.11]: |
The days will be seen, my Lord knows it, When light will issue in the shade of evening; When the west, the north and the south come To experience the delightful showers of heaven. The promise will fall on city and land, - The sweetest promise, the promise of the Father; The Spirit will be poured out, like unebbing seas, On the ancient tribes of Jacob the greatest and the least. O happiest days now hurry on! - The purpose is calling, sin is on fire; Every thing is ripe, prayer is in force: O come, south wind! there is nothing impeding. tr. 2010 Richard B Gillion |
The glory is comingHowell Elvet Lewis (Elfed) 1860-1953 Sweet Singers of Wales 1889 |