Feibil/Feibl gwerthfawr caiff dy eiriau

Feibl gwerthfawr, caiff dy eiriau
  Gartref yn fy mynwes i;
Mae bendithion fyrdd myrddiynau
  Yn Dy addewidion Di;
Dwed, fy nghalon dlawd, fel crwydraist
  Trwy anialwch sych a gwyw,
Nes y daeth Ei eiriau Dwyfol
  I'th wneud di o farw'n fyw.

Cuddiaf D'eiriau yn fy nghalon,
  Gwnaf, yn ddyfnach nag erioed;
Llewych fyddi Di i'm llwybrau,
  Llusern fyddi Di i'm troed;
Cyfaill fyddi ar y ddaear,
  Ac yn angau glynu wnai,
Yn y nef am dragwyddoldeb
  Bydd dy drysor yn parhau.
Thomas Levi 1825-1916

Ronau8 [8787D]:
Converse (Charles C Converse 1832-1918)
  Feibl Gwerthfawr (Joseph Parry 1841-1903)

Valuable Bible, thy words may have
  A home in my breast;
There are a myriad myriad blessings
  In Thy promises;
Say, my poor heart, as thou wandered
  Through a desert dry and withered,
Until His Divine words came
  To make thee from dead to alive.

I will hide Thy words in my heart,
  I will do, deeper than ever;
A brilliance Thou wilt be to my paths,
  A lantern Thou wilt be to my feet;
A friend Thou wilt be on the earth,
  And in death Thou wilt stick,
In heaven for eternity
  Thy treasure shall be enduring.
tr. 2012 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~