Fel afon gref lifeiriol yw, Gras a daioni'r Arglwydd Dduw; Efe sy'n cadw'r saint yn fyw, Mewn troion cyfyng iawn; Ar sychder mawr mae'n dyfrhau, A hyn bob moment yn parhau, A chyda hyn mae yn glanhau, Foreuddydd a phrydnawn. Mae ffrydiau'r afon hon, a'i rhin, A'i blas, yn llawer gwell na'r gwin, Yn adnewyddu'r enaid blin, A'i gynnal dan y groes; Mae'n dwyn tangnefedd nef fel lli', Trwy waed ac aberth Calfari, I ran yr enaid gwan ei gri, Yn nyfnder pob rhyw loes.Richard Jones ?1771-1833 [Mesur: 8886D] |
Like a strong, flowing river, is The grace and goodness of the Lord God; 'Tis he who is keeping the saints alive, In very strait turns; On great thirst he is watering, And this every moment continuing, And with this he is cleansing, Morning and afternoon. The streams of this river, and its merit, and Its taste are much better than the wine, Renewing the exhausted soul, And supporting it under the cross; It is bringing heaven's peace like a flood, Through the blood and sacrifice of Calvary, To the portion of the soul whose cry is weak, In the depth of every kind of anguish.tr. 2018 Richard B Gillion |
|