Fel arwydd i'w ddysgyblion cu

(Marc X. 13-16 -
Golygiad gostyngedig Crist ar Blant bychain)
Fel arwydd i'w ddysgyblion cu,
  Yr Iesu a ddangosodd,
Am ddull a deiliaid teyrnas ne',
  I'r eiddo fe arwyddodd.

"Boed i blant bychain ataf dd'od,
  (Medd ef) heb ddanod iddynt;
I'r cyfryw rai, gwirionedd yw,
  Fod teyrnas Dduw yn eiddynt."

Bendithiodd ef y rhai'n yn rhwydd,
  Mewn dull yn arwyddedig,
O'r fendith nefol, bur heb os,
  Fydd i'r rhai gostyngedig.

Ond ni fedyddiodd mo'nynt chwaith,
  Fe wnaeth ei waith yn addas;
O ran fod eisiau cyffes ffydd,
  Yn neiliaid rhydd ei deyrnas.

Ond d'weyd, oddieithr newid dyn,
  A'i droi fel plentyn bychan,
Nid â i'r deyrnas
    sydd i'r saint,
  Na chael o'i gwiwfraint gyfran.

Pwy bynag a'i dyrchafo'i hun,
  Y cyfryw un ostyngir;
A'r hwn fo isel yn ei fryd,
  Er gwawd y byd
      a godir.
Edward Jones 1761-1836
Gardd Eifion 1841

[Mesur: MC 8686]

(Mark 10:13-16 -
The humble View of Christ of little Children)
As a sign to his dear disciples,
  Jesus showed,
For a means which would signify the tenants
  Of the kingdom of heaven as his own.

"Let the little children come to me,
  (Said he) without denying them;
To such as these, truth it is,
  That the kingdom of God is theirs."

He blessed those freely,
  In a manner signifying
That the heavely blessing, purely certainly,
  Shall be for the humble ones.

But he did not baptize any of them either,
  He did his work appropriately;
Since there must be a confession of faith,
  In the free tenants of his kingdom.

But say, Unless a man change,
  And turn like a little child,
He shall not go to the kingdom
    which is for the saints,
  Nor get of his worthy privilege a share.

Whoever exalts himself,
  Such a one is to be humbled;
And whoever is lowly in his mind,
  Despite the scorn of the world
      is to be raised.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~