Fel hyn mae 'nghalon o'm mewn i

SALM 27 - Rhan II
[8] Fel hyn mae 'nghalon o'm mewn i,
  Yn holi ac yn ateb:
"Ceisiwch fy wyneb ar bob tro;"
  "Fy Nuw, 'rwy'n ceisio d'wyneb."

[9] Na chudd dy wyneb rhag dy was,
  Fy mhorth a'm hurddas ydwyd,
Na ād, na wrthod fi, tra'n fyw,
  Tydi yw Duw fy iechyd.

[11] Duw, dysg i mi dy ffordd yn rhwydd,
  O herwydd fy ngelynion;
Ac arwain fi, o'th nawddol rad,
  Yn wastad ar yr union.

[14] Disgwyl di wrth yr Arglwydd da,
   Ac ymgysura ynddo;
 Efe a nertha'th galon di
   Am hyny dysgwyl wrtho.
Edmund Prys 1544-1623

Tôn [MS 8787]: Sabbath (John Williams 1740-1821)

gwelir: Rhan I - Yr Arglwydd yw fy ngoleu ' gyd

PSALM 27 - Part 2
Thus is my heart within me,
  Asking and answering:
"Seek my face at every turn;"
  "My God, I am seeking thy face."

Do not hide thy face from thy servant,
  My help and my dignity art thou,
Do not leave, do not reject me, while I live,
  Thou art the God of my salvation.

God, teach me thy way freely,
  Because of my enemies;
And lead me, by thy protecting favour,
  Constantly straight.

[Wait thou for the good Lord,
   And take comfort in him;
 He will strengthen thy heart
   Therefore wait for him.]
tr. 2010 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~